Posts

Showing posts from May, 2010

bron ar y ffordd

I'r rhai o chi'n sy'n cadw trac ar ddifelopmynts y daith sydd i ddod, ma Gwenllïan a fi wedi bwcio 3 gwesty hyd yn hyn. Dau ar yr atciwal daith ac un yn columbus y noson ma hi'n cyrradd. Ma hi'n hedfan mewn i Cincinnati, ond mond dwyawr yw e o fan na i Golumbus (llai o amser na me'n cymryd i ddod nol i fan hyn), ac felly ry'n ni'n mynd lan na am noson i weled Ms Lowri Sion a champws gwych Ohio State University. yaaa! Y gwestai erill ry'n ni (fi) di bwcio yw yn Memphis a New Orleans. Y ddau wel o fewn ein byjet o $100 y noson, a ma'r un yn N'Orleans reit ar Bourbon Street, bargen! Mond bwcio gwesty Nashville sydd angen nawr cyn i ni adel, a byddwn ni'n SORTed! WOOP WOOP

Y daith

Wel ma pethe'n rili dechre cwmpo mewn i'w llefydd nawr ar gyfer fy nhaith i a Gwenllïan mis nesa! Ni wedi bwcio car o Cincinnati i Denver ac o Sacramento i LA a thocyne tren o Denver i Sacramento. Ma'r daith yn mynd rhywbeth fel hyn . Ond byddwn ni'n dal tren o Denver i Salt lake City, a wedyn o Salt Lake City i Sacramento, ond na'r daith mwy neu lai. Llefydd i aros yw'r gamp nesa. Yn amlwg byddwn ni'n moyn bod y gwestai mor rhad a phosibl, a chan nad oes cyment o hostels yn America ag sydd yn Ewrop, fydd hi ddim yn hawdd ffindo llefydd rhesymol sydd ddim mas ynghnaol unman. Achos, yn amlwg fyddwn ni hefyd am fod yn weddol agos i ganol y draf/ddinas er mwyn blasu cyment o'r naws lleol ag sy'n bosibl. Felly, os os d UNRHYWUN awgrym am ble i gal y 'deals' gore, wy'n gwrando!! Wy'n gwbod bod lastminutetravel.com yn gwneud dels da, a ma na gynllun da hotels.com, lle y'ch chi'n bwcio 10 nosn a chal yr 11eg am ddim, so falle bod hwn

Mis i fynd!

Wy ddim yn mynd i sôn dim am yr etholiad diweddar, achos i fod yn onest ma fe'n hynod depresing. Hefyd, sen i'n dechre sôn am bopeth wy ishe gweud, elen i mlan am lot gormod o amser. Dichon yw gweud mod i ddim yn dishgwl mlan at ddod nol i etholeth las, a Chymru lot rhy las i'n nhast i. Gobitho wneiff hyn rhoi cic i'r Cymry i ddechre mynnu mwy o bwere i'r Cynulliad a phleidleisio am bobl sy'n mynd i wneud gwahaniaeth yn y Cynulliad na. Ta beth, mis i heddi bydd Gwenllïan Haf yn cyrradd Cincinnati a bydd ein taith ni o gwmpas y wlad ma'n dechre. Ma dal lot da ni i'w wneud cyn ny, rhaid bwcio car i'w rhentu a phrynnu tocynne tren. Gan na fydd Gwenll yn cal dreifo gan na fydd hi'n 21 nes bod ni'n cyrradd gytre, mond fi bydd yn cla dreifo, felly rhaid odd ailfeddwl peth o'r dreifo, a ni di ffindo llwybr Amtrak fydd yn mynd a ni i lle ni'n moyn mynd, so ma popeth yn gret, jest gwneud y trefniade sydd nawr!!! Llefydd cyntaf ar y rhestr yw N

Pleidleisio

Wel ma hi'n ddydd Iau, ma hi'n ddiwrnod pleidleisio gytre. Erbyn i fi gyradd gwaith odd y manau pleidleisio wedi bod ar agor ers chwech awr, a byddan nhw'n cau pan fydda i'n cwpla yn y gwaith heno ma. Mam sydd a gofal o mhledlais i, hi yw mhrocsi i. Wy'n credu byddan nhw'n pleidleisio heno ma sen i'n meddwl. Gobitho bo fi di trysto'r person cywir....hah! Licen i'n fawr wylio'r canlyniade'n dod mewn, ond fel ych hi'n gwbod, heb y we gytre, ma hwna'n itha anhebygol. Ond wy'n benderfynnol o aros yn y swyddfa am sbelen fach ar ôl gwaith i gal y teimlad. Falle nai ffindo rhywun sy'n mynd i fod lan drw'r nos ac sy'n fodlon cadw fi yn y lŵp, cawn weled! COFIWCH BLEIDLEISIO! Fi rhy nyrfys i flogio mwy nawr. Mwy wedyn falle.