Posts

Showing posts from May, 2015

Dyddiadur dŵr diwrnodau 5 a 6

Image
Dau ddiwrnod eithaf gwahanol. Dydd Sadwrn, diwrnod o sdeddfod, beth arall?! Ac yn goron ar y cwbl gig Cowbois a Bwncath ym Mhentyrch. Fel bob tro odd y Cowbois yn wych, ac er nad on i di clywed am Bwncath on nhw'n ffab fyd, ac odd llais y prif leisydd yn gyfarwydd.  Eto, gyrrais, ac rodd arogl y cwrw yn itha deniadol, ond odd hi ddim yn rhy anodd ymwrthod. Wedi gweud hynny, pe bai fi ddim yn gyrru basen i wedi cael rownd o ddiodydd (£12) felly dyna fyddai'n ychwanegu at y cyfanswm.  Dydd Sul wedi trefnu mynd i Bully's am ginio hwyr. Er y bydden i wedi yfed, basen i ddim wedi mynd heddi pe bai fi ddim yn gwneud yr her ma. Ac am y rheswm honno wy ddim am ychwanegu dim at y cyfanswm heddi...gobitho bo chi'n deall! I dreulio amser bore ma pobais i ddwy dorth - un o fara gwyn ac un arall o fara soda.  Llwyddiant ysgubol oedd y ddwy rhaid dweud. A wnaeth y bara gwyn ddim cymryd cymaint o amser ag on i'n meddwl y base fe! Running total £27

Dyddiadur dŵr diwrnod 4

By far and away y dwrnod anodda hyd yn hyn. A hyn o gyd achos diwrnod horibl yn y gwaith. Wedi cyrradd mewn erbyn 730 i orffen toreth o waith, on i'n meddwl bod popeth ar ben erbyn 3. Ond na. Odd na fwy. Stori hir ddiflas yn un fer, bydde gwydred ne ddau o win wedi mynd lawr yn dda iawn heno. Ond na, llwyddwyd i beidio, rywsut! Dyna'i gyd am heno, least said am heddi the better really. Dim i'w ychwanegu at y running total so... Running total £15

Dyddiadur dŵr diwrnod 3

Newydd ddod nol o gig Phalcons, HMSMorris a Georgia Ruth yn Clwb Ifor Bach. Ma'r gig yn haeddu postiad ei hunan achos odd pawb yn wychwychwych. Lot o sdwff newydd cŵl iawn.  Ond nes i lwyddo ar jest dŵr. Bydde peint wedi bod jest y peth. Ond rodd hi'n dro i fi yrru i'r gig felly mond un drinc bydden i wedi cael felly wy am ychwanegu £3 i'r running total.  Odd heddi'n bach o sdrygl gan bod gwaith yn hollol manic ar hyn o bryd. Sôn am ny, ma hi'n amser mynd i'r gwely, gwaith yn gynnar fory! Running total £15

Dyddiadur dŵr diwrnod 2

Pryd arall o fwyd mas (da'r côr tro ma) a llwyddiant eto. Sdicio at y dŵr. Ma hi wir am fod yn her i fi, allai weld na (on i'n gwbod o'r dechre!!) ond fi'n benderfynnol o lwyddo. Ma'n debygol y basen i wedi gwario tua £6 arall heno ar fŵs. Daeth y pecyn gan yr RNLI drwyddo heddi. Ma na un cyfarwyddyd mewn na sy'n gweud os odw i ishe 24awr 'off' bo fi'n gallu cyfrannu £24. Wel wy am weud nawr NAD ODW I AM WNEUD NA! I fi, rhan o'r her yw bod e am gyfnod dilynol o 10 dwrnod. Felly dyma fi'n cyfri lawr nes 5pm ar 5 Mehefin! Running total £12

Dyddiadur dŵr diwrnod 1

Image
Wedi dod i ben y diwrnod cyntaf o yfed dim ond dŵr. Dim y dwrnod hawdda i ddechre gan bod ni di mynd mas am fwyd i ddathlu penblwydd fy ffrind da, Llinos i Steak of the Art. Ond er bod fy nghyfeillion wedi ordro gwin (a bydden i'n dishgwl dim llai!) fe wnes i ymdopi'n iawn!  Wy wedi penderfynnu cadw trac o faint bydden i wedi gwario ar noson a wedyn cyfrannu'r arian yna at yr achos. Wy'n tybio y bydden i wedi rhannu'r gwin gafoss ei archebu ac felly wy am dybio y bydden i wedi gwario tua £6 ar gyfran o'r gwin heno.  Dyma brawf mai ond dŵr ges i heno (a bod y bwyd yn hyfryd!) Running total £6

Dyddiadur Dŵr

Fory fe fydda i'n dechre ar her yr RNLI i yfed dŵr yn unig am 10 diwrnod. I'r rheiny ohonoch chi sy'n yn nabod i, byddwch chi'n gwbod bod hyn am fod yn her i fi gan mod i'n mwynhau gwydred o win nawr ac yn y man! Felly fe fydd hon yn wir her i fi, hyd yn oed os ydych chi'n credu na fydde hi'n her i chi!!  Felly os ydych chi am fy noddi i, bydden i'n gwerthfawrogi'n fawr iawn! Dyma'r ddolen i gyfrannu -  http://www.justgiving.com/sionedwyn. Croeso i chi wneud cyn neu ar ôl i'r cyfnod ddod i ben, os odych chi ishe prawf y bydda i'n gwneud. A diolch i'r rheiny ohonoch chi sydd eisoes wedi cyfrannu!