nol yn y byd go iawn
Wy wedi bod nol yn y gwaith ers dros fis nawr, a rhaid gweud, wy'n rili setlo nol yn gwd ac yn mwynhau cal gwaith i'w wneud. Ar ôl bod yn America am flwyddyn yn gwneud bron dim byd am y cyfnod i gyd, o’n i'n wirioneddol poeni y bydde hi'n anodd iawn i fi fynd yn ôl i'r gwaith ac actually gwneud gwaith. Ond gan mod i wedi cael dyrchafiad o fath/swydd newydd, ma mwy na digonedd o waith da fi i wneud a wy'n mwynhau i wneud e. Fi yw Cynorthwy-ydd yr Iaith Gymraeg Cyngor Caerdydd, dirprwy i Swyddog yr Iaith Gymraeg. Yn ogystal â chyfieithu weithiau, fi'n gweinyddu ac yn y blaen ac yn gweithredu Cynllun Iaith y Cyngor. So wy'n cadw'n hunan yn fishi a dyw e ddim wedi bod yn anodd dod 'nôl mewn i'r swing o gwbl. Ond trwy bo fi'n gorfod neud gwaith drw'r dydd bob dydd, wy'n colli mas ar beth o’n i'n mwynhau neud yn y peth o'r amser sef trydar a blogio am bopeth a phobun! Ta p'un, wy di ffindo amser i flogio ar ddydd Sul fel...