Posts

Showing posts from March, 2011

symud

Wel mai di bod yn gyfnod hir ers i fi flogio ddwetha blantos, a wedai'r gwir tho chi - wy wedi'ch gweld ishe chi, do wy wedi...y pump o chi sy mas na wedi bod yn aros yn eiddgar am fy mlogiad diflas nesaf. Na, a bod yn onest wy wedi gweld ishe cael sgwennu bach i vento!! Ma lot wedi digwydd ers i ni gwrdd ddwetha, a wy ddim yn cofio popeth i gyd ond y peth mwyaf, a'r peth sydd wedi cymry y mhenwythnose i am y deufis diwethaf yw Y FFLAT . Nid fy fflat i, cofiwch, ond fflat fy annwyl frawd, Ieu, y bydda i'n mynd i fyw ynddi. Mae e wedi prynnu fflat deulawr yn Ferry Road, ac ry'n ni wedi bod yn rhoi cegni newydd ac ail-addurno'r holl le ers iddo fe 'gomplîto' ddechre Ionawr. Ma'r amser wedi dod nawr i symud mewn (o'r diwedd) a bydd e'n symud mewn fory (dydd Iau), gan i fod e'n chwarae gwesty i stag do ei ffrind dros y penwythnos. Wy wedyn fod i symud i mewn ddydd Sul, cyn belled a bod y ngwely i wedi cyrradd, a bod y stag do heb ddifetha&#