Posts

Showing posts from June, 2011

gwylie ahoy!

So'r postiad dwetha odd cyn i fi wneud arholiade Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru nol ym mis Ebrill. Wy wedi bwriadu blogio sawlgwaith, ac a bod yn onest da chi a da fi gwpwl o flogiade wedi'u drafftio, ond wy heb wneud dim to fel chi'n llu gweld. So ma canlyniade cymdeithas cyfieithwyr fod i gael eu hala mas wthnos hyn, so cawn weld beth fydd y canlyniad... Ond beth bynnag fydd y canlyniade ma'r haf yn llaw gwychder yn dechre nawr. Dydd Mawrth ni'n mynd i weld Take That  yn stadiwm y mileniwm. Ethon ni ddwy flynedd yn ôl a odd e'n WYCH, so wy'n dishgwl mlaen at hwn Nos fawrth. Wedyn nos Wener ma hi'n drip i Ganolfan y Mileniwm i weld yr hynod wych Avenue Q . Es i weld e llynedd ar Broadway yn Efrog Newydd da Cerith, a wy ffili aros i weld e to nos Wener gyda fe a Barti. A wedyn dydd Sdwrn, y cyffro mawr mis ma - mynd i Fwdapest gyda rhai o aelodau Côr Caerdydd i ganu ym mhremiere darn newydd Karl Jenkins mae e wedi'i ysgrifennu i'r hen gerdd