Posts

Showing posts from July, 2009

roadkill!

Un peth arall wy ddim yn credu mod i wedi gweud amdano fe yw'r roadkill a'r anifeilied gwyllt sydd ambwyti'r lle! Hyfryd wy'n gwbod. I ddechre ma na Groundhog yn byw tu fas i'r swyddfa - ni'n gweld e'n bolaheulo pan ma hi'n braf a wedyn rhededg bant os os unrhyw un yn dod yn agos! Ma'n itha ffyni a gweud y gwir. Ma na hefyd wiwerod ac adar diddorol yn byw ambwyti'r campws. Ma na arwyddio ym mhobman yn rhybuddio am geirw, a dy'n nhw ddim yn gweud celwydd. Chi'n gweld nhw wrth ochr yr hewl (rhei ifanc gan amla) ac yn y nos ma nhw'n rhedeg o gwmpas ac yn fwy tebygol o gal eu bwrw. Wrth ddreifo i unrhywle wy'n gweld rhwbeth wedi'i ladd arochr yr hewl, twrch daear, drewgi, carw, cath, wiwer, racoon, cadno - ma'r rhestr yn itha hir! Ma'r cwn sydd ambwyti'r lle braidd yn annoying fyd - newn nhw redeg mas i'r hewl atb y car, ac yn aml ma rhaid brêco er mwyn pido bwrw nhw, sy braidd yn sceri, withe newn nhw jest rhedeg

diwrnod diflas arall!

Image
Diwrnod diflas arall yn y gwaith, a wy'n siwr bo chi ddim rili ishe clywed amdano fe, ond ma sgwennu'r postiad ma o leia'n gwastraffu bach o'n amser i! Nes i ddarllen ar y BBC ddoe bod awyren Flybe odd yn hedfan o Charles de Gaulles i Gaerdydd wedi cael i divertio i Exeter achos i bod hi wedi'i bwrw gan fellten! Dodd dim problem yn ôl y sôn, ond odd rhaid glanio cyn gynted â phosibl rhag ofn! Itha diddorol on i'n medwl! Neis clywed hefyd fod y côr wedi mwynhau yn Sbaen ac wedi gwneud tair cyngerdd yn y pen draw - ma'r llunie wy wedi gweld hyd yn hyn ar facebook yn edrych yn grêt! Rhaid gweud mod i'n dishwgl mlan at gael cyfle i ganu ym mis Medi (gobeithio!!). Wy wedi gallu rhoi lot fowr o lunie lan ar picasa. Ma na ddolen ar ochr chwith y dudalen, a allwch chi hefyd ddilyn y ddolen ma at y llunie..... Ma mhicnic croeso i dydd Sul yn yr Amgueddfa Treftadaeth yn Oak Hill, jest gobeithoi gewn ni dywydd gwell penwythnos ma na gethon ni penwythnos dwetha. C

amish, tywydd, stwff

Sai'n credu bo fi wedi gweud unrhyw beth am yr Amish yn yr ardal, nage bod lot fowr i weud, ond wy ddim yn credu bo fi wedi gweud dim! Wel ma na boblogaeth itha mowr ohonyn nhw yn yr ardal (dim cyment â ny reit o nghwmpas i, ond ma nhw ambwyti). Wy ddim yn gwbod lot amdanyn nhw, ond wy'n gwbod bo nhw ddim yn defnyddio unrhyw dechnoleg modern, ma nhw'n gwsigo'n syml iawn, a ma nhw'n teithio ambwyti mewn ceffyle a thrapie. Dy'n nhw ddim yn mynd yn gloi iawn, ac yn aml dyw'r trap neu'r 'buggy' efl ma nhw'n galw nhw mas fan hyn, ddim yn edrych yn saff iawn i fi!! Wel fi'n siwr allech chi neud ych ymchwil ych hunan i'w credoau nhw ayb os ych chi'n moyn, on i jest moyn gweud i bod nhw ambwyti'r lle ma! Odd y tywydd penwthnos ma yn ofnadw! On i wedi bwriadu treulio lot o amser mas tu fas yn bolaheulo yn y man bach tu fas i'r fflat ffindes i penwthnos dwetha, ond ar ôl bod i siopa yn Kroger yn Jacskon dydd Gwener (LOT LOT gwell na

HP6+1

Es i i'r cinema TO nithwr. On i wedi bwriadu mynd i weld The Hangover odd mlan am 7:30. Ond NA. Odd y we wedi gweud celwydd, odd e mlan am 6 a 9.40 - bw!!! Wel on i wedi mynd yr holl ffordd lawr yn y glaw (ma'n cymryd bron i hanner awr fel arfer), so on i ddim yn mynd i neud round trip am ddim rheswm. Am 7.30 odd Ice Age 3 (wy heb weld 1 na 2 to!!), a The proposal (on i ddim yn mynd i weld e 2 noson in a rown, odd e ddim mor dda a na!!), so es i weld HP6 odd yn dechre am 7.15, odd hwna werth mynd i weld to! Nes i sylwi mwy ar y pethe odd ar goll o'r stori, pethe on i'n meddwl odd itha pwysig, ond na ni, sdim ots. Dishgwl mlan nawr at wocho'r Seithfed un (mewn dau ran), ac adnabod Freshwater fel lleoliad shell cottage - hwre! Ma hi fel dwrnod o haf yng Nghymru ma heddi!! Bwrw glaw, tywyll a bwyti 17 gradd ar y mwyaf, ond mond 8.30am yw hi, so cawn weld. Ma hi'n bewthnos arnai nawr so fory byddai off i Jackson i ymchwilio'r lle a phryn rhyw bits a bobs gan

ffilms ayb

Sdim byd lot gyda fi weud, ond wy'n moyn neud yn siwr bo fi'n cadw blogio'n weddol rheolaidd, neu fyddwch chi'n anghofio mod i yn gwneud. A wy'n gwbod bo chi'n aros yn eiddgar am bob postiad i gal gwbod be sy'n mynd mlan yn y mywyd bach i ar hyn o bryd! Es i i weld The Proposal nithwr, gyda Sandra Bullock a Ryan Reynolds. Odd e'n rili dda, llai chick flick nag on i'n disgwl, bits bach itha cringey och chi'n llu gweld yn dod, ond nes i rili mwynhau! Wy wedi cal ordors i fynd i weld The Hangover , a wy rili ishe mynd i weld My Sister's Keeper , ond wy ddim yn credu i fod e'n ffilm i fynd i weld ar ben yn hunan, so falle nai aros nes i fod e'n dod mas ar DVD!! Wy'n dal i aros am yr instalment nesaf o Brothers & Sisters (ond o leiaf nawr ma'r disgs wy wedi wocho wedi cyrradd nol at netflix yn Columbus yn saff!!) Fi'n hynod hollol jelys o aelode o Gôr Caerdydd (ac eraill o ar draws Cymru a'r gwledydd celtaidd) sydd

Penwythnos a thâl!

Fe ges i bewythnos bach weddol dawel wthnos hyn. Mynd i weld Harry Potter, bach o goginio ac eistedd tu fas a mynd am wac. Dim nofio, odd Jeanne ddim yn twmlo'n hwylus dydd Gwenre, so on i'n meddwl bydden i ddim yn boddran nhw penwthnos ma! Wedi bod yn wocho Borthers and Sisters dros y penwythnos fyd - ma fe mor dda!! On i wedi gweld rhan fywaf o'r pennode o'r blan ond odd e'n gwd wocho nhw to gan mod i moyn gwylio'r gyfres i gyd - dishwgl mlan at yr instalments nesa nawr! Wy wedi ymuno â netflix (fel LOVEFiLM gytre), so wy'n llu wocho lot o beth am ddim lot o arian! Weeeeel, y newyddion gwych heddi yw mod i newydd gasglu siec ar gyfer y bythefnos gynta ma (h.y. tâl 22-30 Mehefin) - so wy ddim yn hollol dlawd rhagor, hwre! Bydda i'n talu hwna mewn i nghyfrif cyn gynted â phosibl! Byddai hefyd yn cael yn nhalu ddiwedd y mis fel yr arfer, so alla i ddechre talu nghyfrif NatWest gytre nol! Credu bo ni'n neud rhywbeth yn yr amgueddfa fory, ond ddim yn ho

Amryw bethe!

Image
Es i weld Harry Potter nithwr - odd e'n wych!! Definately werth mynd i'w weld e, a falle elen i 'to hyd yn od! Fues i hefyd lan yn Tyn Rhos (5 munud o wâc lan) a thynnu llunie o'r fynwent ac o'r capel ac o'r bywyd gwyllt ar y ffordd lawr ( http://www.facebook.com/album.php?aid=49130&id=309601010&ref=mf ). Wrthi'n siarad da Gwenllïan a Ieu ar Skype ar hyn o bryd tra bod Mam a Dad mas yn galifanto!! Ma mwy na dim ond y llunie na wedi mynd lan so ewch i gal pip os chin gallu!! (Y llun yw'r machlud ar y ffordd nol o weld HP nithwr). Gadewch i fi wybod os bydd well da chi weld y llunie ar flickr neu ar y blog yn hytrach na facebook!! Went to see HP6 last night - it was amazing!! Definatley worht seeing, and might even be worth seeing again!! Also walked up to Tyn Rhos church this morning and took some pictures of the cemetary and the wildlife on the way back down ( http://www.facebook.com/album.php?aid=49130&id=309601010&ref=mf ). Skyping wit

Myfi!

Wele erthygl amdana i ar wefan y Brifysgol! Itha cyffrous rhaid gweud!! Wy'n gobitho mynd i weld Harry Potter fory a wy'n RILI egseited achos wy'n gwbod bydd e'n dda!! Dim niws arall ar hyn o bryd.... --------------- here's the article about me on the University's Website, quite exciting! Hoping to go see Harry Potter tomorrow and I'm really excited! I know it's going to be amazing!! Nothing else to report for now....

prawf gyrru

Image
Jest postiad bach cloi i weud bo fi wedi paso'r prawfd gyrru!! hwre hwre!! Nath e bara grand total o 6 munud!!! ridiculous!!! Ond nawr wy'n hollol gyfrithlon sy'n grêt! ond ma'r llun yn AFIACH!!! Nai flogio to pan ma mwy o bethe diddorol da fi weud!! Quick post to say that I've passed my driving test hurrah hurrah!! Lasted all of 6 minutes!! totally ridiculous, don't know what I was worrying about! But now I'm legal all is good. But the pictre of me on it is awfull!! I'll blog again when I have something more interesting to say (The previosu post was a few happy birthday shout outs by the way!!)

Penblwyddi!

Jest postiad bach cloi i weud Penblwydd Hapus hwyr i Gwenj, a Phenblwydd Hapus i Gwenllïan a Cnob heddi!!! joiwch y dathlu! Ma prawf gyrru da fi am 1pm a wy ddim yn dishgwl mlan - waaaa!!

dydd Sul

Wel ath y darllen yn dda ag ystyried bo fi ddim wedi cael LOT po amser i ddysgu dim byd! Fues i yn yr amgueddfa yn gwitho am bach ar ol ny. Ma na biano na (sydd mwy neu lai mewn tiwn nath yn synnu i!), so fues i'n ploncan ar hwna am sbelen - odd na lyfr cymanfa ganu so na le on i'n trial whare'r emyne ma i gyd, odd e'n itha doniol actiwali chos o fi ddim yn gallu whare'n dda iawn rhagor, ond wy'n mynd i drial ymarfer o nawr mlan! Bopes i mewn i'r swyddfa ar y ffordd nol, ac on i'n gadel y swydfa bwyti 4, ac odd hi'n dywyll tu fas!! Odd storm ar y ffordd yn sicr! dechreuodd hi big bwrw ar y ffordd gytre, ac erbyn i fi gyrradd nol i'r fflat dechreuodd y mellt a'r tarane, on nhw mor agos odd y llawr yn y fflat yn shiglo! Ond sdopodd hi ar ôl bwyti awr ac odd hi'n lot llai clos wedyn. Es i am fywd gyda Lauren i Toro Loco yn Jackson neithiwr. Odd e'n hyfryd, bwyd Mecsicanaidd ffresh hyfryd! Wy off draw i dy Jeanne nawr i nofio gan bod y t

dim mwy problem - muchos gracias!

Crisis averted diolch i Brigyn!!! Wrth bo fi'n whilo am recordiad o 'Do not go gentle into that good night' (on i wedi rhoi lan meddwl basen i'n ffindo cyfieithiad mewn digon o amser) a beth bopodd lan ond Brigyn yn canu cyfieithiad ohono fe! So wy'n mynd i ddefnyddio cwpwl o benillion Saesneg a chwpwl Cymraeg ar gyfer yr angladd, wy'n credu bydd e'n lyfli. Dim lot arall da fi i weud, wedi bod yn y diwnrod agored bore ma, odd stondin da ni tu fas am ddwyawr ac odd hi'n dwym ofnadw, ond neis bod mas yn yr haul. Odd e'n lyfli siarad da aelode o Gôr Caerdydd pnawn ma yn y parti yn 6 Alfreda Road!!!Off a fi nawr i ymarfer y gerdd ma te wy'n meddwl!! --------- Crisis averted thanks to Brigyn (a Welsh band). whilst looking for a recording of 'Do not go gentle into that good night' (I had all but given up all hope that I'd find it in Welsh in time), but what appeared in the seach but Brigyn singing a translation!! So I'm going to use a f

y penwythnos sydd i ddod

Wel am unwaith ma penwythnos itha bishi o mlaen i!! Fory wy ma yn y brifysgol o 11 nes 1 yn helpu mewn diwrnod agored, wedyn yn y nos ma Agnes, ysgrifennyddes Canolfan Madog (Saesnes sydd wedi byw ma am sbel a sydd a thair o ferched a ma hi bwyti 30 yn ôl Jeanne ond ma hi'n dishgwl ru'n oedran a fi), wedi ngwahodd i draw i'w thy am fywd a wedyn mynd i weld band sy'n chwarae yn 'the courthouse' sydd yn Gallipolis (ma hi'n byw yn Gallpolis fyd), sef y dref fawr-ish agosaf, ddylse fod yn hwyl! Wedyn ma dydd Sadwrn yn ddwrnod bach od. Ma da ddyn o'r enw Roy Moses odd yn gwneud lot da'r coleg, odd yn dod o Loegr yn wreiddiol, a'i wraig a gwreiddie Cymraeg, wedi marw. Ma'i angladd e dydd Sadwrn ac odd i wraig am i fi ddarllen rhywbeth, gan bo fi'n dod o Gymru. Beth odd hi wedi meddwl amdano fe odd 'Do not go gentle into that good night', ond wy ddim yn gwbod os yw hwna erioed wedi cael i gyfieithu?? Os os UNRHYW UN yn gwbod am gyfieithi

wythnos tri diwrnod!

Wythnos fer, ond ma felse lot o bethe'n digwydd yn barod. Wy wedi bod lawr i'r swyddfa Social Security a os af i nol fory fe gaf i rif SS er mwyn cael yn nhalu ddiwedd y mis - hwre!! Wy wedi bwcio'r prawf gyrru - wythnos i heddi (14 Gorffennaf - dyddiad pwysig i unrhywun.....??) am 1pm. Wedi cwblhau lot o bethe heddi - ond dal ddim yn neud lot o waith achos bod dim lot i fi neud! Am drial dreifo ambwyti penwthnos ma falle - ffindo mas beth sydd ambwyti'r ardal leol, ac ymarfer dreifo ar gyfer y prawf.....digon o amser cyn ny tho!! ------------------ Although it's a short week this week, a lot seems to be happening! I've been to the social security office and I['ll be issued a number at midnight tonight, and I can get my number if I go down tomorrow. Which means I'll be paid at the end of this month definately, though my card may take a while longer to get to me. I've booked the driving test - 14 July 1pm - a week today. Done and comleted a lot of th

Martha

Wel wy wedi rhoi enw i'm annwyl car - Martha!! hihi. Ethon ni'r holl ffordd i Washington a nol ynddi hi heb ddim trwbwl (car 11 mlwydd oed gyda 119,000 ar y cloc yn barod, a ma Washington yn 850milltir round trip). Wy wedi ychwanegu llunie Washington i facebook a rhai ar flickr erbyn hyn, a ma na fideos fyd!! Os y'ch chi heb neud, ma na thing i danysgrifio i'r blog ar y dde, a byddwch chi'n cael gwybod bob tro wy'n blogio - siwr ei fod e'n haws na trial cofio checo!!! Hwyl am y tro!! ---------- I've named my car - we decided on Martha, an oldish name for my oldish car (who made the 850 mile round trip to Washington without hiccups). I've put the pictures on facebook and some on flickr, and there will be some videos too. If you haven't done so yet you can subscribe to the blog on the right hand bar on this page, and hopefully that lets you know when I've blogged so you don't have to check all the time!! Bye for now!

O gwmpas DC ar fws

Dihunes i'n itha cynnar heddi bwyti 8am, cyn pawb arall, so odd da fi amser i ymlacio a darllen tamed bach cyn bo ni'n dechre ar ein hantur heddi!! Nethon ni benderfynnu pido mynd i'r wyl a mynd ar open top bus yn lle i weld y ddinas ar i gore. So co ni grynodeb bach o bopeth ethon ni off y bys i'w gweld a rhai pehte nopdweddiadol erill, sdim i'w weud am rhai pethe ond ma na am erill.... Jefferson Memorial Lincoln Memorial - Wedi bod o'r blan ond ru'n mor ymêsing, golygfa wych dros y mall National Portrait Gallery (on i ishe mynd i'r Spy Museum, ond ches i ddim chos odd neb rili moyn dod da fi a odd e'n mynd i fod yn awr o giwio cyn mynd mewn). Odd y llunie i gyd yn wych, llunie o Barack Obama a John McCain (ar wahan ar gyfer gwahanol photoshoots) yn 2004, odd yn rili ddiddorol. Portreadau swyddogol o'r holl arlywyddion odd yn cwl fyd. Welon ni lot fowr o bethe erill o'r bys, a thynnu llunie hyfryd. Gethon ni fwyd mewn bwyty pysgod hyfryd o&

Diwrnod numero dos!

Heb dreulio cymaint o amser yn yr wyl heddi, dim ond popo mewn am bwyti awr. Wedi bod i amryw amgueddfeydd y Smithsonian sydd o gwmpas y mall. Amgueddfa Hirshhorn - Celf modern, arddangosfa lawr llawr am y corff a distortion y corff mewn celf. Odd na lun grêt o Andy Warhol paent olew ar felfed. Yr Ardd Gerfluniau - lot o gerflunie o Ewrop a Gogledd Ameria er 1880. Odd na gerflun gan Rodin The Burghlers of Calais na odd yn rili ddiddorol. Odd y tywydd yn hyfryd ac felly'n rili neis crwydro'r ardd. Dillon Ripley Center - Crochenwaith Lowri Davies a chrochenwyr eraill o Gymru ar ddangos, gyda phlaciau yn Saesneg a Chymraeg ar y wal yn adrodd eu hanes! Castell y Smithsonian - yr amgueddfa wreiddiol. Lot o arddangosfeydd bach yn dangos y gwahanol arddangosfeydd sydd wedi bod yn yr amgueddfeydd. Odd na baun gyda'i holl blu a set o lestr odd yn cael eu defnyddio ar y Concorde. Washington Memorial - jest wâc o'i gwmpas, paratoade ar gyfer Independence Day yn mynd mlan. Ma fai

Washington - Diwrnod cyntaf yr Wyl

I ddechre nai weud peth am y daith lawr. Saith awr a hanner yn y car gan gynnwys sdopio dwywaith. Amser da iawn sen i'n gwed - bwyti 400 milltir. Ffindo'n ni'r ffordd yn hawdd gyda help google maps a GPS! Bwyd a drinc bach yn y bar ar ôl cyrraedd nithwr wedyn gwely i ymlacio cyn heddi!! Odd hi wedi bwrw glaw yn ofnadw nithwr a ry ffordd felly on i'n creosi bysedd y bydde hi'n braf heddi! Un broblem - wy wedi tynnu lot o lunie, ond wy ddim wedi dod â'r cebl sy'n cysylltu'r camera gyda'r laptop, so bydd rhaid i chi aros nes dydd Mawrth cyn i chi weld llunie (dim gwaith dydd Llun achos Independance Day dydd Sadwrn), ond cadwch lygad!! Odd hi'n braf heddi! Yn ferwedig ond ddim yn rhy glos. Nai roi run through o'r dwrnod i chi, achos os af i mewn i ormod o fanylder byddai ma drw'r nos! Odd y lle'n agor am 11am (popeth am ddim gyda llaw sy'n grêt), ond on ni na bwyti 10.30am yn dishgwl ambwyti. Ar ol cerdded ambwyti tam bach netho