y penwythnos sydd i ddod

Wel am unwaith ma penwythnos itha bishi o mlaen i!! Fory wy ma yn y brifysgol o 11 nes 1 yn helpu mewn diwrnod agored, wedyn yn y nos ma Agnes, ysgrifennyddes Canolfan Madog (Saesnes sydd wedi byw ma am sbel a sydd a thair o ferched a ma hi bwyti 30 yn ôl Jeanne ond ma hi'n dishgwl ru'n oedran a fi), wedi ngwahodd i draw i'w thy am fywd a wedyn mynd i weld band sy'n chwarae yn 'the courthouse' sydd yn Gallipolis (ma hi'n byw yn Gallpolis fyd), sef y dref fawr-ish agosaf, ddylse fod yn hwyl!

Wedyn ma dydd Sadwrn yn ddwrnod bach od. Ma da ddyn o'r enw Roy Moses odd yn gwneud lot da'r coleg, odd yn dod o Loegr yn wreiddiol, a'i wraig a gwreiddie Cymraeg, wedi marw. Ma'i angladd e dydd Sadwrn ac odd i wraig am i fi ddarllen rhywbeth, gan bo fi'n dod o Gymru. Beth odd hi wedi meddwl amdano fe odd 'Do not go gentle into that good night', ond wy ddim yn gwbod os yw hwna erioed wedi cael i gyfieithu?? Os os UNRHYW UN yn gwbod am gyfieithiad - plis gadewch i fi wybod trwy'r blog neu ebost (sionedwyn@googlemail.com) cyn gynted â phosibl plis, diolch. Ma hi'n moyn i fi ddarllen e'n Saesneg a Chymrag os yw na'n bosibl.

Wel ar ôl yr angladd wy'n mynd i wirfoddoli yn yr Amgueddfa to, a wedyn falle gwneud rhywbeth gyda Lauren yn y nos, ma'n dibynnu os yw hi'n gwitho neu bido. Ymysg hyn y gyd ma angen i fi ymarfer gyrru a manwfro! Fe wnai i flogio fory eto ma'n siwr. Yn y cyfamser meddyliwch am hyn - ma mr Hari Grochenwr yn y sinema mewn llai nag wthnos!!! a Hefyd ma na siiii am ddydd sadwrn yn y gwynt fyd..............

-----------

Well for once I have quite a busy weekend ahead of me! Tomorrow I'll be helping out on a student open day here at the university from 11 until 1 ish. Then Agnes the secretary here at the Madog Center has invited me over to her house for dinner and then to go see a band of a friend of hers in Gallpolis, close to where she lives. It should be fund meeting her friends, and meeting people more my age!

Saturday is a weird day. A man named Roy Moses from English decent, who helped a lot with the college and was very active died yesterday and his funeral is Saturday. When Jeanne told his wife that I spoke Welsh she asked if I would be willing to read something at his funeral, and Jeanne said I probably would, and she wants me to read 'do not go gentle into that good night' by Dylan Thomas in English and in Welsh - problem is, I don't know if it's ever been translated into Welsh - so if anybody knows - PLEASE contact me through the blog or via my email (sionedwyn@googlemail.com) before the end of tomorrow (Friday 10 July) please!! Thanks.

Afterwards I'm volunteering at the museum again, and maybe going out with Lauren or doing something with her in the nigth, depending on if she's working or not. And I've got to fit in my manoeuveurs as well!! Waaa. I'll probably blog again tomorrow - in the meantime just think about this - Harry Potter is out in cinemas in less than a week!!!!

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw