diwrnod diflas arall!
Diwrnod diflas arall yn y gwaith, a wy'n siwr bo chi ddim rili ishe clywed amdano fe, ond ma sgwennu'r postiad ma o leia'n gwastraffu bach o'n amser i! Nes i ddarllen ar y BBC ddoe bod awyren Flybe odd yn hedfan o Charles de Gaulles i Gaerdydd wedi cael i divertio i Exeter achos i bod hi wedi'i bwrw gan fellten! Dodd dim problem yn ôl y sôn, ond odd rhaid glanio cyn gynted â phosibl rhag ofn! Itha diddorol on i'n medwl!
Neis clywed hefyd fod y côr wedi mwynhau yn Sbaen ac wedi gwneud tair cyngerdd yn y pen draw - ma'r llunie wy wedi gweld hyd yn hyn ar facebook yn edrych yn grêt! Rhaid gweud mod i'n dishwgl mlan at gael cyfle i ganu ym mis Medi (gobeithio!!).
Wy wedi gallu rhoi lot fowr o lunie lan ar picasa. Ma na ddolen ar ochr chwith y dudalen, a allwch chi hefyd ddilyn y ddolen ma at y llunie.....
Ma mhicnic croeso i dydd Sul yn yr Amgueddfa Treftadaeth yn Oak Hill, jest gobeithoi gewn ni dywydd gwell penwythnos ma na gethon ni penwythnos dwetha.
Co lun dynes echddo. Ma hi'n gallu mynd mor dwym ma fel bod y pryfed yn symud yn arafach (falle taw nid y tywydd yw e ond ma nhw felse nhw'n fwy placid rhywsut!). Fi ffili cofio os mai pili pala neu wyfyn sy'n cadw'u adenydd yn llonydd pan ma nhw'n glanio ond odd hwn yn hollol llonydd (dodd e ddim wedi marw achos weles i fe'n glanio na!), falle all un o chi weud wrtha i beth yw e!! Ma fe'n sefyll/ishte/gorwedd ar y tunnelli o fint sydd tu fas i'n ddrws i.
Ma Evelyn (y landlord) wedi bod off am yr wthnos ddwetha, a on i'n moyn dechre mynd i nofio, ond gan i bod hi ddim ma on i ddim yn siwr os on i jest yn gllu jwmpo mewn so cyn gynted a ma hi nol byddai'n gofyn iddi, fel bo fi'n llu mnd mewn i rwtîn o nofio bob dydd achos sai'n neud braidd dim ymarfer corff fel ma hi ar hyn o bryd!!
tata tan toc - a chofiwch dicio'r blyche ar dop y postiad i weud fel chi'n timlo amdano fe!
Comments