lefel 4 = lockdown

So pedwaredd ar bymthegfed o Ragfyr, a ni nôl i locdown arall. Sai'n credu bod neb yn synnu rili. Ond fi'n credu bod yr amseru wedi bwrw pobl oddi ar eu hechel. Odd hi'n eitthaf amlwg nad oedd bwytai a siopau'n gwybod ei fod yn digwydd. Ond diolch byth mai nid dyma'r tro cyntaf, wnaeth llawer iawn o sefydliadau lwyddo i aros ar aor yn hwyr neithiwr, neu slioio mewn i têcawe ar gyfer heddi. sydd yn rhywbeth o leiaf.

Ond ma hyn wedi bwrw teuluoedd a ffrindiau hyd y oed yn galetach na neb arall. Mae wedi amlygu mai beth sydd wir yn bwysig i bobl yw bod gyda'i gilydd. Gewch chi gadw'ch anrhegion, jest rhowch i fi gwtsh da'r teulu i gyd. 

Yn bersonol wy'n cytuno gyda'r cyfyngiade. Ma hi'n argyfyngus mas na. Ond iyffach gols ma fe'n anodd. Ni gyd yn gwbod bod e'n anodd, ac ŷ'n ni gyd am wned y gore o bethe. Fe fydd pethe'n well cyn bo hir. Fe gewn ni weld ein gilydd to. Ac fe gewn ni gwtsh.

Os oes na rhywun yn sdryglo ac angen help menw unrhyw ffordd, plis estynnwch mas am help. Dyma'r cyfnod anoddaf mae'r mwyafrif ohonom ni wedi ac yn mynd i fwy drwyddo fe. Does dim yn bod yn gofyn am help. Boed hynny'n ffrind i gael rant, neu help ariannol. Rhowch floedd os oeddech chi'n bwriadu siopa wythnos nesaf a bellach ddim am allu gwneud, fi'n siŵr bod na rhywbeth allwn ni wneud os oes angen.

Nes bod ni nôl i 'normal-ish' to, cymrwch sedd ar y soffa, rhowch ffilm gysurus mlan a chymrwch wydred o win. Gaiff y glanhau a'r tacluso aros. Cadwch eich gilydd yn saff. A Dolig llawen i chi gyd.

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!