Posts

Showing posts from June, 2009

pre DC

Wedi pasio'r prawf ysgrifenedig ar gyfer cael trwydded yrru yn Ohio, hwre. Ond nawr ma rhaid i fi basio'r prawf gyrru (sy'n cynnwys manoevarbility test sy'n edrych yn itha anodd a gweud y gwir!!), a allai drefnu hwna rhywbryd yw'n moyn, ond bydd rhaid i fi neud cyn bo hir er mwyn yswiriant! Wy wedi trial meddwl be wy'n moyn neud yn Washington, gan bo fi di bod o'r blan i weld amryw bethe sdim lot wy'n gallu meddwl amdanyn nhw - ond bydde mynd i'r national gallery ac amgueddfeydd y Smithsonian yn ddiddorol. Hefyd ma na International Spy Museum na - wedi ffansio hwna fyd!!! Gadewch i fi wbod os os da chi unrhyw awgrymiade ar lle i fynd neu beth i weld!! Wrth gwrs, byddai'n ca'l bwyd gyda Baz a Michelle a'r plant un nosweth, diolch i nghysylltiadau gyda'r Blaid..... -------------- Passe the written driving test - woohoo, but now I have to do the driving test (which includes a manoevarability test which I'm not looking forward to!), a

ypdêt

Newydd ffindo mas, trwy gyfieithu gwefan Canolfan Madog , mae eglwys annibynnol oedd adeilad Amgueddfa Treftadaeth Cymry America yn arfer bod. On i wedi dyfalu, ond ddim yn gwbod yn iawn. Wedi rhoi dolen i chi fynd i wefan Canolfan Madog, i chi gal gweld beth sy'n mynd mlan ma. Wedi ffindo'r gwesty byddwn ni'n aros ynddo fe yn DC, edrych yn ffab, gyda phwll nofio tu fas a gym a chyfleustere i gysylltu da'r we (jest gobitho bo nhw ddim yn costio!!). Heddi wedi bod yn ddiwrnod hir am ryw reswm - a ma dal awr da fi ar ôl! Yn ôl Google dylse hi gymryd oddeutu 7 awr i ni gyrradd DC sydd ddim yn rhy wael spos. On ni wedi edrych i fynd ar y trên, ond er bod digon o seddi ar y ffordd mas, dodd dim seddi i ddod nol gyda ni! ------- Whilst translating the Madog Center website, I discovered that the Welsh-American Heritage Musem used to be a Congregational Church, which I had guessed at but didn't know for sure! Also click on the link above to go and have a look at the Madog

Penwythnos Tri Diwrnod!

Image
Nos Iau gafon ni storm mellt a tharane a gwynt a glaw itha seriys! Odd e’n itha cyffrous a gweud y gwir. Wel on i fod i fynd i bigo ffrwythe bore dydd Gwener – ond dath Evelyn (y landlord) lan yn y bore a gweud bod i siŵr o fod ddim yn syniad da gan i bod hi dal yn wlyb da drad. Ond, dath hi a wye ffres lan i fi! Ma’i mab hi’n byw gyferbyn â ni (nhw sy berchen y llwyni ffrywthe), a ma da nhw dwrci (neu falle dou), ieir, geifr, gwydde a da! Odd y wye yn fach ac yn fowr, yn wyn, brown, glas a gwyrdd – sy’n neud i fi feddwl falle od wye gwydde mewn na falle. Ma hi wedi bod yn ychydig o ddyddie od, bod yn America pan fod Farrah Fawcett yn marw bore dydd Iau o ganser, mond ychydig ddyddie ar ôl cyhoeddi ei bod hi am briodi. A wedyn yn hwyrach y dwrnod na ffindo mas bod Jacko wedi marw – odd e’n itha bisâr, a gallai ddim troi’rteledu na’r radio mlan heb weld rhaglen am y late great King of pop neu glywed cân MJ ar y radio! So ethon ni i bigo bluberries (nawr wy eriod wedi gallu gwitho m

Mwy o Le Car

Wel ma'n dishgwl felse rhaid i fi wneud prawf ysgrifenedig a phrawf gyrru dydd Mawrth er mwyn bod yn gymwys o dan yswiriant y coleg sy'n crap rili! Wy'n cal gyrru fe nes bo fi'n cal y prawf sy'n oce spos, so bydd e da fi dros y penwthnos. So adolygu dros y penwthnos nawr ac ymarfer gyrru - gytid! ---------- Looks like I've got to do the wirtten and driving test so that I can be included on the uni's insurance which is very annoying to say the least. At least I'm allowed to drive it in the meantime, or they didn't say I couldn't.....revision for me all weekend then I guess!!

Le Car

Postiad bach cyflym - yr un ola nawr cyn dydd Llun oherwydd y diffyg cysylltiad â'r we yn y fflat. Wedi cael cyfrif banc bore ma yn yr Ohio Valley Bank - sipwyr defnyddiol. Tra'n bo ni yn y banc yn seto popeth lan, daeth y storm mellt a tharanne a glaw a gwynt mwyaf ymêsing! Odd hi'n pistillo'r glaw a chwythu, odd hi'n edrych bwyti 11pm ond mond 9am odd hi!! Ar ôl neud ni, ethon ni via cartref Jeanne i nôl cader i fi gael yn fy swyddfa, a wedyn i weld ambwyti cael trwydded yrru. Yn ôl y fenyw yn y swyddfa wy'n cael bod yn tourist yn gyru yn America am flwyddyn. Ond falle bydd y brifysgol am i fi gael trwydded yrru Ohio. OS y'n nhw'n moyn ni bydd yn rhaid i fi sefyll arholiad ysgrifenedig a chal prawf gyrru. Rili RILI ddim ishe na i ddigwydd!! So ni'n aros nawr i gael clywed wrth rhyw foi yn y Brifysgol os y'n nhw angen i fi gael trwydded yrru Ohio, gan mai ar yswiriant y Brifysgol fydda i. grrrr! OND ma'r car yn cyrradd mewn cwpwl o orie a by

Gwaith etc

Wel, wy ar yn drydydd diwrnod yn y gwaith a dal heb wneud braidd dim ond darllen lan am hanes yr ardal ac ymchwilio ar y we. Bach o e-bostio a fêsbwcio, a dechre acownt Flickr. Gobeithio'ch bod chi wedi mwynhau rhai o'r llunie wy newydd ychwnaegu ar y postiad blaenorol. Os y'ch chi am weld mwy o lunie - ewch i www.flickr.com/photos/sioden , neu cadwch lygad ar fêsbwc www.facebook.com/sioden !! Wy dal yn ddi-gar, ond gobeithio i'r nefoedd bydd e wedi sortio erbyn fory neu bydda i'n ddi-gar dros y penwythnos hir (hiihii!!). Toyota wy'n cal wy'n credu, a ma nhw fod i ddelifro fe draw i'r Brifysgol, ond ma dal stwff i sortio mas, a ma pobl yn bod yn araf, fel arfer! Gan bo ni'n gwitho 10 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Iau, bydde penwthnos 3 dwirnod yn y fflat yn ddiflas. Er wy'n gwbod bydd Jeanne yn gwahodd fi draw dros y penwthnos - wy'n twmlo braidd felse fi'n dibynnu lot arni ar hyn o bryd (ma hi'n casglu fi a mynd a fi nol o'r g

Y Daith (English at the bottom)

Image
Wel erbyn hyn wy wedi cyrradd yn saff, ond co hanes y daith i chi..... Dechre trwy hedfan o Gaerdydd am 6am (ar ôl codi am 3.30am) i Amsterdam. Odd da fi ddwyawr yn Amsterdam, a o'n i'n meddwl bydde digon o amser i grwydro o gwmpas, ond wrth gwrs, gan bo fi'n hedfan i America, odd angen checo popeth cyn boardo'r awyren, so dreulies i'r holl amser yn ciwio i fynd ar yr awyren! Odd y flight i Detroit yn hirach na'r arfer yn ôl y sôn (8 awr 20 munud), a nethon ni fwrw turbulence eitha gwael bwyti awr cyn glanio. Wedi glanio yn Detroit ro'dd yn rhaid mynd trwy immigration, a'r rhan gwaetha am hyn odd y ciwio am oesoedd!! Tra'r o'n i'n ciwio daeth na ddyn customs lan ata i i checio'n ffurflenni a thra'i fod e'n checio fe odd e'n holi cwestiyne i fi, a phan wedes i bod na gymdeithas Gymraeg yn Ne Ohio wedodd e "Oh my six year old son loves Fireman Sam in Welsh!", ges i ddim cyfle i holi, ond neis gwbod bod Sam Tân yn lico

Cyn mynd

Wrthi'n meddwl am bacio - ond eto dal heb wneud dim! Ma dal anen prynu bag i fynd â'n laptop etc ar yr awyren, wedi gweld un hyfryd yn Staples o bobman, credu ma fory bryna'i hwna! Dim lot i weud ar y funud, nai gadw chi'n posted o unrhyw ddigwyddiade cyffrous!