Le Car

Postiad bach cyflym - yr un ola nawr cyn dydd Llun oherwydd y diffyg cysylltiad â'r we yn y fflat. Wedi cael cyfrif banc bore ma yn yr Ohio Valley Bank - sipwyr defnyddiol. Tra'n bo ni yn y banc yn seto popeth lan, daeth y storm mellt a tharanne a glaw a gwynt mwyaf ymêsing! Odd hi'n pistillo'r glaw a chwythu, odd hi'n edrych bwyti 11pm ond mond 9am odd hi!!


Ar ôl neud ni, ethon ni via cartref Jeanne i nôl cader i fi gael yn fy swyddfa, a wedyn i weld ambwyti cael trwydded yrru. Yn ôl y fenyw yn y swyddfa wy'n cael bod yn tourist yn gyru yn America am flwyddyn. Ond falle bydd y brifysgol am i fi gael trwydded yrru Ohio. OS y'n nhw'n moyn ni bydd yn rhaid i fi sefyll arholiad ysgrifenedig a chal prawf gyrru. Rili RILI ddim ishe na i ddigwydd!! So ni'n aros nawr i gael clywed wrth rhyw foi yn y Brifysgol os y'n nhw angen i fi gael trwydded yrru Ohio, gan mai ar yswiriant y Brifysgol fydda i. grrrr! OND ma'r car yn cyrradd mewn cwpwl o orie a byddai yn cal gyrru fe gytre a bydd e da fi dros y penwythnos!!

Off i weld y fenyw HR mewn munud, gobitho bydd hi ddim yn rhy anodd (ma hi'n gallu bod yn ôl y sôn!!), wedyn cyfwelid gyda'r boi sy'n sgwennu datganiadau i'r wasg. Fory wy'n mynd i yrru o gwmpas tamed bach i weld siwd le sy ma a thynnu cwpwl mwy o lunie (heb wneud ddoe ac yn sicr ddim bore ma gan bod y tywydd di bod mor wael!). Dydd Sadwrn wy'n mynd i wirfoddoli yn Amgueddfa Treftadaeth Cymry America gyda Jeanne, ddylsai fod yn ddiddorol, wedyn draw i'w thy hi fi'n credu.

Sdim lot arall da fi i weud am nawr felly gadewch goment os y'ch chi ffansi, neu halwch nodyn bodyn. Nai bostio to dydd Llun - ma'n siwr bydd lot da fi i weud, a gobeithio mwy o lunie!!

----------

Quick post beofre my weekend (teehee). Set up a bank account this morning with the Ohio Valley Bank, things are starting to get together now. Whilst we were in the bank the most amssive thunderstorm and wind and rain broke out. We dashed to the car and went via Jeanne's house to pick up a chair for my office on the way to find out about a driver's licence for me. Apparently I can drive for a year here as a tourist, but I have to get a licence after that. But if I do want a licence I'll have to sit a written test and have a driving test! Do NOT want that. So we're waiting to see what the guy in the university says, because I'm going to be on the Uni's policy, fingers crossed for no need for a licence!!

Off to see the apparnetly awkward HR woman in a minute, then for the interview with the press releases guy. Then the car is arrivng around 4pm hopefully which means I'll have it this weekend to drive around a bit on Friday. Will also be able to take pictures of the surrounding areas then I think! We're volunteering at the Welsh-American Heritage Museum on Saturday then I think off to Jeanne's after that.

Comments

MicroJones said…
Hia! Fi 'to!! Edrych mlaen i weld y datganiad i'r wasg hyn - na siwr bo tn postio fe lan ar y we rwle, rwyfordd!!! Swno fel se tn joio!! Jelys x
Unknown said…
God help Rio Grande, na be fi'n gweud! XX

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw