Posts

Showing posts from April, 2010

teithio a diflastod

Wel wedai tho chi beth, sai di blogio ers bron i bythefnos a wy'n sori, oce?! Wy wedi gweud o'r blan (sawl gwaith ma'n siŵr), bod dim lot fawr o bethe da fi i'w gwneud, ac os nadoes dim byd yn ,ynd mlan, beth yw pwynt blogio am fywyd diflas?! Ta beth, er bod dim di digwydd yn ddiweddar, co fi'n blogio ta beth i gadw mewn cysylltiad da chi i gyd. Pump wythnos gyfan sda fi ar ôl ma, plys cwpwl o ddyddie wedyn fi'n caslu YYY Gwenllïan Haf o'r maes awyr ar y nawfed o Fehefin, cyn hedio arhyd y daith MA . Yr unig broblem ar y funud yw bod Gwenllïan o dan un ar hugen ac felly ma'n bosibl na fydd hi'n cal gyrru. Os na fydd hi'n cal gyrru, yna bydd rhaid ailfeddwl y gyrru, achos bydd e'n ormod i jest fi i wneud!! Ta beth, fel chi'n gwbod wy'n hynod o egseitid a ffili aros, bydd hi'n antur a hanner. Dim mwy da fi i'w dweud nawr te, so adai chi fynd yn gynnar!

Dr Who

On i'n meddwl weden i rhwbeth am y Dr Who newydd, ond ddim fel rhan o unrhyw bostiad arall. Wy wedi bod bach yn rhy glyfar ac wedi llwyddo i lwytho'r rhaglenni o BBC iPlayer a'u gwylio nhw ar fy nghluniadur bach i. So wy'n lico'r doctor newydd. Fel wy'n siwr bod lot o chi'n gwbod, all neb weud gair croes am David Tennant wrtha i, a wy'n dal i gredu mai fe yw yr ULTIMATE doctor, ond wy'n bles iawn da Matt Smith. Fi'n credu bod e'n neu joben wych a wy'n lico'i bortread e o'r doctor. Ond dyw'r straeon ddim *cweit* cystal â rhai Russell T. Davies. Dyn nhw jest ddim na. Ond wy'n joio. Wy ddim mor wael a Mam sy'n gytid bod hi braidd yn mwynhau nhw o gwbl, am ryw reswm wy'n gallu dishgwl heibio'r idealism sy'n diferu o'r straeon...falle achos mod i di bod yn byw yn Ohio am bron i flwyddyn yn gwylio teledu crap Americanaidd, sai'n siŵr. Falle bod gormod o newid wedi dod ar yr un pryd. Doctor newydd, cymar

diflastod

Wel sdim lot da fi i wneud ar y funud, mond gwersi Cymraeg. Wy'n joio rheiny'n fawr, ond dy'n nhw ddim yn cymryd lot o'n amser i rili, dim mwy na'r awr wy'n dysgu mewn diwrnod yn anffodus. So wy nol i neud dim byd bob dydd, sy'n mynd ar yn nerfe i rili. Wy'n trial ffindo pethe i'w gwneud, ond unrhyw beth wy yn ffindo, mond rhywbeth bach yw e ta beth!! Dishgwl mlân i ddod nol, ond wedi gweud ny bydd hi yn od iawn dod nol i normalrwydd!! Ma'r gwanwyn yn i anterth, a wy ddim yn credu bydd yr haf yn hir cyn dod. Ma paill ymhobman ma, a wy'n syffran gyda fe, ond ma'r antihistamines yn helpu so sdim pwynt achwyn! Ma'r cynllunie ar gyfer yr haf yn dod yn u blaene'n dda, wedi bwcio gwesty i fi a Gwenllïan yn Cincinnati ar ôl iddi lanio, yn bennaf fel bod hi'n gallu ymarfer gyrru'r car byddwn ni'n rhentu cyn dreifo nol i fan hyn! Ni'n ystyried cal convertible, ddim yn mynd i fod yn lot drytach na'r ceir erill, ac oleia
Wel wy nol ar ôl prin pump dwrnod yn Efrog newydd, diwrnod o ddreifo bob pen plys bron dwrnod o ddreifo yn mynd a Cerith i'r maes awyr, whiw. DONE. Nes i rili joio. Bydde fe di neud mwy o sens mwn i flogio wrth mod i'n mynd mla, on WRTH GWRS dodd dim amser i neud na, nagodd e?!! Wel os y'ch chi di bod ar Facebook allwch chi weld yn lunie i (ma lot fawr iawn!) a allwch chi ddyfalu beth fuon ni'n neud. Statue of Liberty ac Ynys Elis, Museum of Modern Art, Metropolitan Museum of Art, Museum of Natural History, Central Park (gan gynnwys Strawberry Fields), trip mewn wch rown yr ynys, Guggenheim, Emipre State, Top of the Rock yn y nos (lan y Rockerfeller) yn ogystal â mynd i Times Square sawl gwaith a mynd i weld Avenue Q, odd yn hollol wych a doniol a briliant! So na ni rili, dim lot mwy i'w ddweud. Nethon ni ddefnyddio CityPASS odd yn wych, a wy'n sicr yn ei awgrymu fe i unrhywun sy'n mynd i unrhyw rai o'r llefydd ma nhw'n gweithredu ynddo fe. Ma'

Efrog Newydd

Wrthi'n cwblhau cynlluniau Efrog Newydd gyda Cerith, wy ffili aros!! Ma'n debygol na fyddai'n siarad gyda fe nawr nes i ni gwrdd yn Cincinnati, so ni'n trial neud yn siwr bod popeth yn barod ac yn ei le! Ma da fi restr siopa i brynu stwff i ni gal byta yn y car ar y ffordd i NYC a ma Cerith yn neud yn siwr bod e'n cyradd Cincinnai'n saff gyda'i guide book! Erbyn hyn yn ni wedi cynllunio gwneud lot o bethe, ond wy'n siwr bydd pethe'n newid wrth i ni grwydro ayb! Ond ni wedi prynu City Pass ac wedi talu ar ben hwna i fynd i liberty, a mynd i weld avenue q so digon i'w wneud. Ar ben ny wy'n gobitho gallu cwrdd lan da criw OF rywbryd pan fyddai na, gan bod Beth a Gus dal yn byw yn Kearny, Stephen yn byw yn Efrog Newydd, a ma Cindie yn ymweld ar yr un pryd!! Lwc pur! so cyffro i'r macsimwm ar y funud!! wwwoooooo!