teithio a diflastod

Wel wedai tho chi beth, sai di blogio ers bron i bythefnos a wy'n sori, oce?! Wy wedi gweud o'r blan (sawl gwaith ma'n siŵr), bod dim lot fawr o bethe da fi i'w gwneud, ac os nadoes dim byd yn ,ynd mlan, beth yw pwynt blogio am fywyd diflas?!

Ta beth, er bod dim di digwydd yn ddiweddar, co fi'n blogio ta beth i gadw mewn cysylltiad da chi i gyd. Pump wythnos gyfan sda fi ar ôl ma, plys cwpwl o ddyddie wedyn fi'n caslu YYY Gwenllïan Haf o'r maes awyr ar y nawfed o Fehefin, cyn hedio arhyd y daith MA. Yr unig broblem ar y funud yw bod Gwenllïan o dan un ar hugen ac felly ma'n bosibl na fydd hi'n cal gyrru. Os na fydd hi'n cal gyrru, yna bydd rhaid ailfeddwl y gyrru, achos bydd e'n ormod i jest fi i wneud!! Ta beth, fel chi'n gwbod wy'n hynod o egseitid a ffili aros, bydd hi'n antur a hanner.

Dim mwy da fi i'w dweud nawr te, so adai chi fynd yn gynnar!

Comments

Cerithimbo said…
AWSOME daith!!! AWSOME locations. Gobeitho neiff rwbeth gwitho mas da'r driivo x

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!