Posts

Showing posts from 2016

Dim byd

Image
Blogiad bach cynta ers sbel, a wy'n gwneud o'n ffôn ar y trên (1645 Paddington i Abertawe os os rhaid chi gal gwbod), felly maddeuwch unrhyw typos plis! Fi'n hynod o ymwybodol nad oes sylwedd mawr i'r blogiade ma, a bod y mwyafrif yn llawn crap sgan fawr o neb ddiddordeb ynddyn nhw. Ond wy'n lico sgwenu nhw. Fi jest yn lico sgwenu rili. A na beth yw blog yn y pen draw. Sgwennu. Dyddiadur. Log o be sy'n mynd mlan yn dy ben di. A ma lot yn mynd mlan a rownd a rownd yn y mhen bach i.  Wy'n siŵr ma nid fi yw'r unig un sy'n cal sgwrs da rhywun, neu'n darllen neu'n gweld rhywbeth a ma fe'n troi a throsi yn y mhen i. A wedyn dipyn i beth ma na rhyw speech ne sgwrs yn dechre hware'i hunan mas yn y mhen. Ac yn aml ma rhaid i fi gal y sgwrs na da rhywun, lleisio'r geirie'n uchel er mwyn cal i gwared nhw. Weithie ma fe am rywbeth positif, a allai ddim cadw'r peth mewn. Weithie ddim, ac mewn achosion felny ma'n gallu bod yn lladdf

Champhai

Image
Prif ran ein taith i Mizoram oedd cymryd rhan yn y 56th Kristian Thalai Pawl General Conference. Cynhadledd Gristnogol sy'n cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn mewn lleoliade gwahanol ar draws Mizoram. Tebyg i sdeddfod ond yn dwymach a sdim walie ar y pafiliwn! Cwpwl o stodnine rownd yr ochre a'n sicr iawn dim alcohol!  Dros y dyddie on ni yn h gynhadledd fe wnaethom ni berfformio tua 8 gwaith (wedi colli cyfri â bod yn onest!). Ro'dd gwasanaethe yn y bore pnawn a nos a fellowship yn dilyn ar ôl y gwasaneth nos - cyfle i fwynhau amryw berfformiade heb fod yn strict fel mewn gwasaneth.  Wy ddim am fynd ati i ddisgrifio'r perfformiade gwahanol i chi, ond wy am drial rhoi blas o'r profiad cyffredinol i chi. Ma'r Mizos yn dwlu  canu. Ma fe'n rhan annatod o'i gwasanaethe nhw, am hanner awr cyn unrhyw wasaneth bydd na ganu emyne - band neu backing track; person yn galw geirie'r penillion mas fel bo pawb yn gwbo be sy'n mynd mlan (ma nhw'n aml iawn

Aizawl

Image
Ar ôl siwrne ddiddorol iawn  yn y bws melyn o faes awyr lengpui i Aizawl ar hyd hewlydd bach iawn a chul...  ...fe gyrhaeddon ni y Synod Conference Centre lle'r on ni am un noson. Ar ôl gwasneth yn y capel cysylltiedig, gan gynnig perfformiad bach impromptu, bant a ni i gael pryd o fwyd traddodiadol Mizo - reis, daal, cig, tato a cauliflower sbeislyd a salad o lysie amrywiol. Rhywbeth fydden ni'n ei fwyta'n aml IAWN dros yr wythnos nesaf! Ben bore Iau mlaen a ni i'r bws am siwrne oedd fod yn naw awr, gymrodd dros ddeuddeg. Mewn bws. Ar hyd hewlydd bychain bach cul a dwstllyd. Gyda miloedd ar filoedd o berereinion ar y ffordd i gynhadledd gyffredinol y Kristian Thalai Pawl yn Champhai.  Odd y siwrne yn un o'r rhai mwyaf diddorol ac araf erioed. Ar hyd hewlydd odd a mwy o potholes na hewlydd Caerdydd. Gan bod cymaint o draffig odd na adege lle oedden ni ar sdop yn gyfan gwbl, ac wrth gwrs rodd hyn yn gyfle am singsong bach cyflym i basiomr amser! Fe wnaethom ni sdopio

Kolkota

Image
AM BROFIAD. So, rewind nol i gyrradd Heathrow fore Llun i wybod fod e'n flight am fod 85 munud yn hwyr, sef faint o amser oedd am fod gyda ni o layover yn Dubai. Lwcus llwyddwyd ein cael ni gyd ar flight Qantas, oedd yn gadel awr a hanner yn gynt na'n flight wreiddiol. Queue 19 o ni'n ryshan drwy Heathrow. Gallen ni ddim bod wedi gofyn am flight gwell! Attendants hyfryd a dwy sedd yr un os on ni ishe!  Teg dweud bod y flight mlaen i Galcutta ddim hanner cystal.  Llawn dros ben ac oer!  Ta waeth, wedi cyrraedd Kolkota, cwbwl oedd i'w wneud oedd dal tacsi. Dyna oedd profiad. Pedwar (gan gynnwys oleia un dyn gydag unrhyw ferch) a chesys mewn tacsi bach am beth odd fod siwrne awr i'r gwesty. Not so ar gyfer ein tacsi bach ni. Gymrodd hi bron i ddwyawr i Rhydian, Osian, Llio a finne i gyrradd y gwesty. Odd y boi tacsi ar goll. Gyrhaeddon ni yn y pen draw ar ôl lot o holi pobl leol a'r pedwar o ni'n poeni fwyfwy!  Wedyn rodd hi'n amser i 19 o Gymry blinedig fy

India?!

Dyw hi dal heb cweit sinco mewn bod ni off i India FORY. Ma'r trefniade i gyd wedi eu gwbeud ar ein rhan ni, a'r cwbl sydd angen i ni wneud yw troi lan i ddal bws am 630 bore fory! Gan bod na gyn lleied o waith wedi bod i ni wneud (a ma hyn yn anarferol i control freak sy'n trefnu popeth fel arfer...), heblaw am ddysgu darne a phacio'n hynod o gall, ma popeth dal yn bach o freuddwyd mewn gwirionedd. Siwr bydd popeth yn dechre cico mewn pan fyddwn ni ar ein ffordd fory!  Ni newydd orffen ein hymarfer olaf cyn mynd a'r cwbl sydd i'w wneud nawr yw neud yn siŵr bod popeth yn y cês a gosod y larwm gyfer y bore!

India!

Ddiwedd y mis bydd criw o ni o gôr CF1 ar ein ffordd i India, yn benodol i ardal Mizoram. Mae fe'i gyd yn dod o berthynas sydd gan y côr gyda chôr a chymuned yn Mizoram, drwy ein harweinydd, Eilir. Ar hyn o bryd ma'r 18 ohonom ni yn mynd drwy'r broses o geisio cael visas i fynd. Hyd yn hyn mae tair ohonom ni wedi cael win gwrthod e-visa (heb unrhyw reswm), ac felly'n gorfod gwneud cais am visa traddodiadol (sy'n costio LOT mwy ac yn annoying dros ben!). Ggan obeithio y bydd awb yn cael caniatâd yn y pen draw byddwn ni'n gadael Heathrow am Kolkota (via Dubai) ar 29 Chwefror am 10 diwrnod o ganu a mwynhau ym mhellteroedd India.  Felly, tan bod bod mwy o ddatblygiade....