Aizawl

Ar ôl siwrne ddiddorol iawn yn y bws melyn o faes awyr lengpui i Aizawl ar hyd hewlydd bach iawn a chul... 
...fe gyrhaeddon ni y Synod Conference Centre lle'r on ni am un noson. Ar ôl gwasneth yn y capel cysylltiedig, gan gynnig perfformiad bach impromptu, bant a ni i gael pryd o fwyd traddodiadol Mizo - reis, daal, cig, tato a cauliflower sbeislyd a salad o lysie amrywiol. Rhywbeth fydden ni'n ei fwyta'n aml IAWN dros yr wythnos nesaf!

Ben bore Iau mlaen a ni i'r bws am siwrne oedd fod yn naw awr, gymrodd dros ddeuddeg. Mewn bws. Ar hyd hewlydd bychain bach cul a dwstllyd. Gyda miloedd ar filoedd o berereinion ar y ffordd i gynhadledd gyffredinol y Kristian Thalai Pawl yn Champhai. 

Odd y siwrne yn un o'r rhai mwyaf diddorol ac araf erioed. Ar hyd hewlydd odd a mwy o potholes na hewlydd Caerdydd. Gan bod cymaint o draffig odd na adege lle oedden ni ar sdop yn gyfan gwbl, ac wrth gwrs rodd hyn yn gyfle am singsong bach cyflym i basiomr amser!

Fe wnaethom ni sdopio i gael cinio yn nhŷ nifer o weinidogion yr eglwys bresbyteraidd oedd yn agor eu cartrefi i ni. Roedd lle wnaethom ni sdopio i gael cinio hefyd yn ysgol, ac yn gyfnewid am gân neu ddwy fe wnaethon nhw berfforio dwy ddawns draddodiadol Mizo i ni. 

Erbyn cyrraedd yn Champhai roedd pawb wedi blino'n lân, felly gafon ni fwyd a lawr i'r Pandal (meddyliwch am bafiliwn sdeddfod enfawr heb ochre) am sound check cyflym wedyn gwely cynnar. Bydd hanes y gynhadledd i ddilyn. 

(Ar hyn o bryd ni yng Nghalcutta yn aros i hedfan i Dubai....)


Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!