Thursday, 22 December 2011

Tua'r Gogledd

barn.... 
Heddi wy'n teithio yn y car da Angharad a Catrin lan sha'r gogledd ar gyfer priodas ffrind fory. Ma hi'n ail ar hugain o Ragfyr ac ma hi'n lawiog a braidd yn niwlog ymhobman.

Nawr falle bod hyn achos bo fi di cal hanner potelaid o win da cino, ond wy'n dwlu ar Gymru fach fel gwlad. Hyd yn oed yn llwyd i gyd yn y glaw, ma na rhywbeth arbennig amdani.

Ta beth wy'n hynod ddiolchgar nad yw'r tywydd yn wael neu ma na bosibilrwydd mawr na fydden ni'n gallu gwneud y siwrne lan (neu'r siwrne nol lawr!).

Er gwaetha'r A470 a mod i'n ishte ynghefn y car gyda'r dillad i gyd, wy'n mwynhau'r siwrne, ac nid achos y cwmni am unwaith (achos mewn gwirionedd wy'n mwynhau siwrneiau hir yn y car achos ma'n amser sing song a chat!).

So cwestiwn sda fi i chi yw beth yw'ch hoff olygfa chi o'r ffordd yng Nghynru? Dim jest oddi ar yr A470, ond un sy'n codi gwallt y gwar neu jest yn codi gwên. Ma sawl un da fi.

Thursday, 24 November 2011

Ond doedd e'n ddydd da

barn.... 
Ma cyment o ddyddie yn toddi mewn i'w gilydd a chyment o bethe crapllyd yn gallu digwydd gyda'i gilydd ma amgen dathlu'r dyddie da. Ac i fi odd heddi wirioneddol yn ddiwrnod da.

Falle fod rhai ohonoch chi'n gwbod mod i'n trial colli pwyse. Ma'r cwpwl wthnose dwetha ma wedi mynd bach tw pot. Withes i'n rili galed wthnos ma a cholli tri phwys a hanner. So on i'n hapus!! Bring on wthnos nesa weda i!!

Yn ail ges i nghayniade gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru am yr arholiade wnes i nol ym mis Hydref. Ma'r pedwerydd (!!) tro on i'n sefyll yr arholiade a do'n i ddim yn hynod hyderus gan nad odw i'n cyfieithu per se ar hyn o bryd. Ond, daeth y canlyniade heddi ac fe basies i'r ddwy arholiad! O'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg. Mega chuffed rhaid gweud. Nes i sgrechen a ma rhaid bod y bobl yn y fflat lawr llawr n meddwl bo fi'n nyts!

So na ni wedi rhannu fy niwrnod da â chi. Ma'n neis cal teimlo hapusrwydd pur am lwyddiant personol weithie, fel gwedso'r sais "it doesn't happen often."

Tuesday, 1 November 2011

Failure

barn.... 
Nes i dynnu llun base wedi bod yn wych ar gyfer postio ar cymru365. Heblaw am y ffath bod yn headphones i yn y ffordd. Fail. Co'r llun ta beth, gallwch chi weld y potensial gobitho. Na beth ti'n cal o fod mewn rysh i gyrradd gwaith!!

Monday, 31 October 2011

Cymru365

barn.... 
So ma'n llun cyntaf i wedi mynd ar y safle. Ac un pawb arall hefyd fi'n credu erbyn hyn. Y rheol yw, un llun y dydd, wedi'i dynnu ar y diwrnod hwnnw. Dim thema, dim amser penodol i bostio, jest un llun.

Rhaid i fi fod yn onest, dynnes i ddim lot o lunie heddi i ddewis y gore, ond fe fuodd y peth ar yn meddwl i itha lot o'r dwrnod. Ac o ganlyniad wy'n siŵr mod i wedi cael ysbrydoliaeth ar gyfer sawl llun posibl arall. Sai'n siŵr am 364 arall gwahanol ac amrywiol cofiwch, ond na ni, sdim ishe dodi'r cart o flan y ceffyl.

Y peth gyda fi ar hyn o bryd yw mae'r camera gore sy da fi yw'n iPhone. Ma fe'n well na nghamera digidol 'run of the mill i' ac ma na apps arno fe i greu effeithie diddorol a bach yn wahanol i bob llun. So am nawr, yr iPhone fydd hi!

Wy yn gobeithio y gwna i ddatblygu'n sgilie ffotograffig i dros y flwyddyn, ma fe'n rhywbeth wy wedi bod ishe gwneud ers sbel. On i wedi meddwl cymryd cwrs, ond wrth gwrs wy erioed wedi edych yn ddigon manwl i mewn i'r peth, so ddaw hwna rywbryd to.

Am nawr wy jest am ymddiheurio am y teipo gwael, wy yn y gwely a odd rhaid i fi sgwennu hwn cyn cysgu lle bo fi'n angofio be on i am weud! Ac wrth gwrs i gael gweld campweithiau heddi ac i ddilyn be sy'n mynd mlaen da ni dros y flwyddyn ewch i cymru365.posterous.com 

gwon te, cerwch......

Sunday, 30 October 2011

llun y dydd...

barn.... 
Yn dilyn sgwrs ar twitter wythnos diwethaf, wy'n mynd i drial cymryd rhan mewn project o dynnu un llun y dydd am flwyddyn , gan ddechre fory. Ma na griw o ni'n mynd i fod yn cyfrannu i'r wefan cymru365.posterous.com

Ar hyn o bryd wy'n cael trafferth mawr yn postio i'r safle so wy'n gobeithio y bydda i'n gallu sortio fe mas cyn dechre fory! Ma'r postiad ma yn rybudd y bydda i'n blogio yn fwy rheolaidd gobeithio yn y flwyddyn sydd i ddod wrth i fi drial ffindo testunau ac ysbrydoliaeth.

iddi

Friday, 14 October 2011

Hon

barn.... 
Am ryw reswm, ar noswyl Gêm fwy Cymru i fi erioed ei gweld, ma 'Hon' gan TH Parry Williams di bod yn mynd tr mhen i. Dim syniad pam, ond co hi i chi

HON

Beth yw’r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap
Yw fy mod yn ei libart yn byw. Nid yw hon ar fap

Yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn,
Ac yn dipyn o boendod i’r rhai sy’n credu mewn trefn.

A phwy sy’n trigo’n y fangre, dwedwch i mi.
Dim ond gwehilion o boblach? Peidiwch, da chwi

 chlegar am uned a chenedl a gwlad o hyd;
Mae digon o’r rhain, heb Gymru, i’w cael yn y byd.

Rwyf wedi alaru ers talm ar glywed grwn
Y Cymry bondigrybwyll, yn cadw swn.

Mi af am dro, i osgoi eu lleferydd a’i llên,
Yn ôl i’m cynefin gynt, a’m dychymyg yn drên.

A dyma fi yno. Diolch am fod ar goll
Ymhell o gyffro geiriau’r eithafwyr oll.

Dyma’r Wyddfa a’i chriw; dyma lymder a moelni’r tir;
Dyma’r llyn a’r afon a’r clogwyn; ac, ar fy ngwir,

Dacw’r ty lle’m ganed. Ond wele, rhwng llawr a ne’
Mae lleisiau a drychiolaeth ar hyd y lle.

Rwy’n dechrau simsanu braidd; ac meddaf i chwi,
Mae rhyw ysictod fel petai’n dod drosof i;

Ac mi glywaf grafangau Cymru’n dirdynnu fy mron.
Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.

Sunday, 12 June 2011

gwylie ahoy!

barn.... 
So'r postiad dwetha odd cyn i fi wneud arholiade Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru nol ym mis Ebrill. Wy wedi bwriadu blogio sawlgwaith, ac a bod yn onest da chi a da fi gwpwl o flogiade wedi'u drafftio, ond wy heb wneud dim to fel chi'n llu gweld.

So ma canlyniade cymdeithas cyfieithwyr fod i gael eu hala mas wthnos hyn, so cawn weld beth fydd y canlyniad...

Ond beth bynnag fydd y canlyniade ma'r haf yn llaw gwychder yn dechre nawr. Dydd Mawrth ni'n mynd i weld Take That yn stadiwm y mileniwm. Ethon ni ddwy flynedd yn ôl a odd e'n WYCH, so wy'n dishgwl mlaen at hwn Nos fawrth.

Wedyn nos Wener ma hi'n drip i Ganolfan y Mileniwm i weld yr hynod wych Avenue Q. Es i weld e llynedd ar Broadway yn Efrog Newydd da Cerith, a wy ffili aros i weld e to nos Wener gyda fe a Barti.

A wedyn dydd Sdwrn, y cyffro mawr mis ma - mynd i Fwdapest gyda rhai o aelodau Côr Caerdydd i ganu ym mhremiere darn newydd Karl Jenkins mae e wedi'i ysgrifennu i'r hen gerdd Hwngaraidd - A Walesi Bardok (The Bards of Wales), ac ma Twm Morys wedi ysgrifennu geiriau Cymraeg newydd iddo. Mae'r darn newydd wedi'i gomisiynu i ddathlu cyfieithiad Peter Zollman, fydd, yn ôl y sôn yn bresennol yn y perfformiad. Dim ond cynrychiolaeth fach o'r côr fydd yn gallu bod na achos fod y perfformiad ar nos Fawrth. Ta beth, wy eriod wedi bod i Hwngari ac wy'n dishgwl mlaen yn fawr, fel y'n ni i gyd!!

Yn hwyrach eleni ma'r côr yn canu yn y Proms yn Neuadd Albert ganol mis Gorffennaf, ac wedyn wy'n mynd i Baris i weld ffrind sy'n byw mas na am chwe mis. Ac wedyn, yr ultimate gorffwys ddiwedd mis Awst deg diwrnod ym Mhortiwgal.

Rhwng popeth ma da fi haf bishi o mlaen, a wy'n rili dishgwl mlan, cyn troi rownd bydd hi'n fis Medi ac yn amser i'r ŵyl gaws unwiath eto, ac wedyn yn hydref ac yn ddolig, jiw ma amser yn hedfan!