Pryd gewn ni ganu nesaf?

Na'i gyd sy ar y meddwl i ar hyn o bryd yw canu. Ddydd Sul on i'n gwrando ar Robat Arwyn a ddechreuodd e whare côr yn canu un o ddarne Karl Jenkins, a gorffes i droi fe bant ar ôl rhyw bymtheg eiliad achos odd e'n atgoffa fi gyment o'r math o beth fasen ni'n canu yn y côr. Odd e'n mynd i ypseto fi gomod. A falle bod rhai ohonoch chi'n meddwl bod hwna'n pathetic, ond na ni. Fel na ma hi.

Fi jest ishe gwbod pryd gewn ni ganu go iawn nesaf. Canu go-iawn fi'n golygu. Dim canu côr rhithiol (sy'n lyfli ac yn lot o hwyl, a ma fe'n wych gweld ffrwyth llafur pawb yn y pen draw), a dim ymarferion dros zoom (sydd ffrancli yn torri  nghalon i). Canu go iawn. Cystadlu mewn steddfod leol. Cystadlu yn y steddfod gen. Perfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm. Perfformio mewn neuadd bentre chwyslyd. Canu yn y capel. Canu yn y pyb. Canu yn tŷ Rich a Pritch o gwmpas y piano ar ôl sesh. Canu unrhywle ond ar ben yn hunan yn y tŷ. Unrhywle.

Unrhywle.


Côr CF1 yn Aberystwyth



Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy