Di-deitl, di-gyfeiriad
Mae di bod dros bythefnos ers i fi flogio ddiwethaf, dros bythefnos
ers claddu mamgu. Fi dal yn anghofio weithie ei bod hi wedi mynd. Don ni ddim
yn siarad yn aml. Dodd hi byth yn ffonio fi, am ba bynnag reswm, a don i
ddim yn ei ffonio hi’n ddigon aml chwaith. Erbyn y diwedd odd hi’n anos ei ffonio
hi am sawl rheswm. Am un peth, odd hi mewn cartref gofal a dodd dim ffôn ei
hunan gyda hi. Am beth arall, hyd y oed cyn ei bod hi yn y cartref, odd hi’n
dechre colli ar ei hun. Felly odd cael sgwrs ddim wastad yn fuddiol iawn. Dim esgus,
jest ffeithie.
Ni wedi bod draw yn ei thŷ hi yn edrych drwy ei sdwff hi. Ma
lot o atgofion yn lot o’r pethe sydd na. Ond oedd hi’n mini hoarder hefyd.
Bydde hi’n cadw papur lapio a’i fflatno fe lawr. Ond doedd hi braidd byth yn
rhoi anrhegion (oedd well da hi rhoi arian...), felly Duw ŵyr pam ei bod hi’n
cadw fe. Ta beth, fi wedi etifeddu rhai o’i llestri amrywiol hi, ac yn edrych
mlaen i’w defnyddio nhw a meddwl amdani.
Ta beth, erbyn hyn ry’n ni’n dechre dod mas o’r cyfnod cloi
ma lle ma cyfyngiad ar ein symudiade ni. Ni’n cael mynd yn bellach na phum
milltir, ond ddim yn cael bod tu fewn yng nghwmni neb heblaw ein bybl. Heblaw wrth
gwrs ein bod ni’n siopa. Neu’n torri gwallt. Pidwch â chal fi’n rong, fi’n
credu bod y rheole hyn wedi’n cadw ni’n saff (wel, lot fawr o ni ta beth), ac
ma siwd ma Llywodreth Cymru wedi ymdrin â’r holl beth wedi bod yn gadarnhaol iawn.
A na fi DDIM jest yn gweud na achos bod fi’n gweithio iddyn nhw.
Ond ma na flinder mawr a chyffredinol wedi dechre gostwng
dros bawb yn ddiweddar. Neu falle ei fod e wedi bod na ers dechre’r cyfnod clo
ond ein bod ni ddim wedi sylwi cymaint nes ein bod ni’n gweld ein gilydd yn
amlach? Falle bod adrenalin wedi bod yn ein cynnal ni’n fwy nag arfer, pwy â ŵyr.
Wy wedi bod mas (yn y Depot) gyda ffrindie, ac odd e’n
wirioneddol hyfryd gweld pobl eraill o nghwmpas i. Er eu bod nhw’n ddigon pell,
ac wedi cael prawf tymheredd ac wedi diehintio’u dwylo. Odd e’n neis. Side note
– sai byth ishe mynd nôl i orfod ciwio wrth y bar, ordro ar mobile app a table service
yw’r ffordd mlaen. Prove me wrong.
Byddwch yn saff mas na....
Comments