Posts

Showing posts from November, 2009

Advent Carol Sing

Image
Diddorol yw'r unig air wy'n mynd i ddefnyddio ar y blog ma am y digwyddiad ma. Odd yr amgueddfa'n llawn, ond rhieni'r plant odd lot o'r gynulleidfa, sy'n beth da, ond hefyd sy'n beth gwael gan nad odd lot o bobl odd ddim â chysylltiad uniongyrchol â pherfformiwr wedi dod. Wy wedi rhoi cwpwl o lunie ar Picasa os chi'n moyn i gweld nhw. I'r rhai ohonoch chi sydd ddim yn ffans o Nanci Griffith byddwch chi ddim yn gwerthfawrogi'r llunie ma.... I'r rhai ohonoch chi sydd YN ffans ohoni "Forrrd Econooooliiiiiinneeeeeeeeeeeee!!" Ewch i wrando fan hyn!!! Nes i barco drws nesa iddo fe ddoe wrth siopa am fy anrheg nadolig i (sniff sniff feri sad!!) twdl pip am y tro

Thanksgiving

Fi'n ymddeihurio mod i heb flogio ers sbel, wedi bod yn syndod o fishi!! Fues i yn Columbus dros y penwythnos yn ymweld â Lowri, ac odd Huw na hefyd. Ges i loads o loads o hwyl a ma llunie ar facebook os ych chi'n moyn gweld nhw. Odd e'n brofiad gwahanol, profi bywyd prifysgol yn yr UDA gyda'r rhan fwyaf o fyfyrwyr dan oedran - felly partïon mewn tai odd yr order of the day fel petai. Nes i a Huw hefyd gal cyfle i wylio'r rygbi mewn tafarn yng Ngholumbus, odd yn neis!!! Sooooo ma Thanksgiving fory fi'n mynd lawr i dy merch Evelyn, sydd hanner milltir lawr yr 'ewl. Gobitho byddwn ni'n llu cerdded lawr. Ma'r hen Huwcyn yn dod lawr achos bod angen i fi fynd a fe i'r maes awyr dydd Gwener. Wy'n i bigo fe lan heno o Chillicothe, sydd bwyti awr o fan hyn a wedyn fory ni'n mynd am daith fach ambwyti'r ardal, cyn cal bwyd am 4pm. Bydd hi'n brofiad newydd i'r ddou ohonom ni, so nai adel i chi wybod fel ma hi'n mynd wedyn. Ar ôl myn

Columbus

I gadw chi'n ypdetid - fues i yng Ngholumbus dros y penwythnos yn ymweld â'r hyfryd Lowri Sion a'i ffrindiau, ac wrth gwrs mr Huwcyn Puwcyn. Wy wedi blino heddi a mond fi sydd yn y swyddfa drw'r dydd, wy ddim yn rhagweld lot o waith cyn cael i neud, os o gwbl!! Ta beth. nai flogio am y profiad wedyn, pan fydd mwy o egni da fi!!!

Homecoming

Wel diwedd wythnos dweithaf odd dathliade Homecoming Rio Grande. Parade yn dechre am 4pm nos Wener a wedyn bwyd ar y diwedd. Gethon ni hwyl, rhaid gweud. Nath Canolfan Madog Gerdded gyda baneri Cymru a phyped enfawr o fam Taliesin (ma hi di bod yn y Ganolfan ers cwpwl o flynydde, gyda arwydd bach yn gweud Taliesin, wy'n gwbo mai nid Taliesin yw hi so cymryd mai i fame yw e falle - unrhyw un sydd a syniad gadewch wbod i fi!!) Ma'r llunie ar Picasa ac ar Facebook i chi gal gweld. Ma'n rhaid i fi weud mod i di joio, a na'r tro cyntaf i fi weld criw o bobl o'r Brifysgol gyda'i gilydd yn joio, odd yn neis, ond trueni bod e ddim yn rhwbeth sy'n digwydd yn aml!! Ma Dr Robert Tyler sy'n Fulbright-Robertson scholar yn dod i roi darlith i ni dydd Iau, ac ma'r wybodaeth am i ddarlith e ar grwp Canolfan madog ar facebook. Na gyd am nawr bois!

post-Rygbi!

Wel nes i fwynhau'r gêm dydd Sadwrn rhaid gweud, er y cnalyniad gwael. Yn y pen draw, ar ôl lot gormod o ffaff ar fy rhan i, lwyddes i wylio'r gêm ar wefan y BBC!! y broblem idd, pan es i na cyn y gêm dodd dim i ddweud y bydden nhw'n dangos y gêm nage just yn neud live text updates. Ta beth weles i ddim o'r côr yn canu, ond glywes i nhw'n amlwg iawn yn canu amthem Seland Newydd o leiaf!! Llunie gwych gan bawb o'r hwyl ar ôl y gêm, a wy'n genfigenus iawn mod heb i weld e - so wy'n gobitho bod y WRU yn darllen y mlog i er mwyn i fi weud 'gwahoddwch Côr Caerdydd nôl i ganu yn y stadiwm!!!' na'i gyd am nawr!!

Rygbi

Wel wy am gal profiad newydd fory - wocho/gwrando ar y rygbi (dibynnu be allai ffindo!!) ar ben yn hunan a heb gwrw i gadw fi'n gall! Wy'n hyderus y byddai'n cal clywed y gêm o leiaf! Pob lwc i Gôr Caerdydd sy'n canu cyn y gêm a wy'n jelys iawn ohonyn nhw. Ma CF1 yn Warsaw fyd, wel ar y ffordd ar hyn vn credu, a gobeithio wnawn nhw fwynhau a gwneud yn dda yn y gystadleuaeth gorawl!!! Hefyd penblwydd hapus Ieu, dydd Sul. Ma fe'n rhannu penblwydd gyda Jamie Roberts. Hyfryd iawn!!

Tywydd ac Amser

Image
Wel wy ffili'n deg a chredu i bod hi'n fis Tachwedd yn barod, ma amser yn HEDFAN y misoedd dwetha ma! Ma'r tywydd yn prysur oeri'n gloi iawn. Boreue yn rhewllyd ond haul yn twynnu sy'n neis iawn, ac yn bert. Ma mwyafrif y coed wedi colli'u dail i gyd erbyn hyn, er bod rhai ond newydd droi'n goch, sy'n od, ond fela na ma rhai coed sbos!! Dynnes i'r llun hyn tu fas i Ganolfan Madog ddydd Sul. On nhw wedi cal gwared ar yr holl ddail dydd gwener, a o'n nhwn garped to erbyn dydd Sul! Pert iawn rhaid gweud, er falle bach o boen!! Ath yn clocs ni nol nos Sadwrn/dydd Sul - wythnos yn hwyrach na phawb gytre ym Mhrydain, so ry'n ni nawr nol i 5 awr o wahanieth. Odd e'n od am gyfnod achos odd yr un gwahanieth amser rhwng Arfordir y Gorllewin a ni fan hyn ag odd rhyngddo ni a Phrydain - sydd ddim rili'n neud sens, ond na ni!! Fel chi'n gwybod o mhostiad blaenorol, odd yr addurniade Calan Gaeaf wedi bod yn mynd ar yn wic i! Wy'n siŵr bydd