Advent Carol Sing
Diddorol yw'r unig air wy'n mynd i ddefnyddio ar y blog ma am y digwyddiad ma. Odd yr amgueddfa'n llawn, ond rhieni'r plant odd lot o'r gynulleidfa, sy'n beth da, ond hefyd sy'n beth gwael gan nad odd lot o bobl odd ddim â chysylltiad uniongyrchol â pherfformiwr wedi dod. Wy wedi rhoi cwpwl o lunie ar Picasa os chi'n moyn i gweld nhw.
I'r rhai ohonoch chi sydd ddim yn ffans o Nanci Griffith byddwch chi ddim yn gwerthfawrogi'r llunie ma....
I'r rhai ohonoch chi sydd YN ffans ohoni "Forrrd Econooooliiiiiinneeeeeeeeeeeee!!" Ewch i wrando fan hyn!!!
Nes i barco drws nesa iddo fe ddoe wrth siopa am fy anrheg nadolig i (sniff sniff feri sad!!)
twdl pip am y tro
Comments