post-Rygbi!

Wel nes i fwynhau'r gêm dydd Sadwrn rhaid gweud, er y cnalyniad gwael. Yn y pen draw, ar ôl lot gormod o ffaff ar fy rhan i, lwyddes i wylio'r gêm ar wefan y BBC!! y broblem idd, pan es i na cyn y gêm dodd dim i ddweud y bydden nhw'n dangos y gêm nage just yn neud live text updates.

Ta beth weles i ddim o'r côr yn canu, ond glywes i nhw'n amlwg iawn yn canu amthem Seland Newydd o leiaf!! Llunie gwych gan bawb o'r hwyl ar ôl y gêm, a wy'n genfigenus iawn mod heb i weld e - so wy'n gobitho bod y WRU yn darllen y mlog i er mwyn i fi weud 'gwahoddwch Côr Caerdydd nôl i ganu yn y stadiwm!!!'

na'i gyd am nawr!!

Comments

Cez said…
Rygbi-post?!

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw