Rygbi

Wel wy am gal profiad newydd fory - wocho/gwrando ar y rygbi (dibynnu be allai ffindo!!) ar ben yn hunan a heb gwrw i gadw fi'n gall! Wy'n hyderus y byddai'n cal clywed y gêm o leiaf!

Pob lwc i Gôr Caerdydd sy'n canu cyn y gêm a wy'n jelys iawn ohonyn nhw. Ma CF1 yn Warsaw fyd, wel ar y ffordd ar hyn vn credu, a gobeithio wnawn nhw fwynhau a gwneud yn dda yn y gystadleuaeth gorawl!!!

Hefyd penblwydd hapus Ieu, dydd Sul. Ma fe'n rhannu penblwydd gyda Jamie Roberts. Hyfryd iawn!!

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw