Tywydd ac Amser
Wel wy ffili'n deg a chredu i bod hi'n fis Tachwedd yn barod, ma amser yn HEDFAN y misoedd dwetha ma! Ma'r tywydd yn prysur oeri'n gloi iawn. Boreue yn rhewllyd ond haul yn twynnu sy'n neis iawn, ac yn bert. Ma mwyafrif y coed wedi colli'u dail i gyd erbyn hyn, er bod rhai ond newydd droi'n goch, sy'n od, ond fela na ma rhai coed sbos!! Dynnes i'r llun hyn tu fas i Ganolfan Madog ddydd Sul. On nhw wedi cal gwared ar yr holl ddail dydd gwener, a o'n nhwn garped to erbyn dydd Sul! Pert iawn rhaid gweud, er falle bach o boen!!
Ath yn clocs ni nol nos Sadwrn/dydd Sul - wythnos yn hwyrach na phawb gytre ym Mhrydain, so ry'n ni nawr nol i 5 awr o wahanieth. Odd e'n od am gyfnod achos odd yr un gwahanieth amser rhwng Arfordir y Gorllewin a ni fan hyn ag odd rhyngddo ni a Phrydain - sydd ddim rili'n neud sens, ond na ni!!
Fel chi'n gwybod o mhostiad blaenorol, odd yr addurniade Calan Gaeaf wedi bod yn mynd ar yn wic i! Wy'n siŵr bydd lot o'r addurniade lan am wythnos fach arall. Ond wy hefyd yn siwr y bydd addurniade Nadolig lan wap achos bod Thanksgiving diwedd mis ma. The Holiday Season is Upon Us....waaaaaaaaaaaaaa too much!! Wy'n dwlu ar y 'dolig ac addurniade a phopeth, ond ma dau fis ohono fe yn ridicilys - cawn wedl, nai gadw chi'n ypdêtid!!
Er mod i ddim yn lico loads o addurniade, nes i brynu dwy bwmpen dydd Sadwrn a'u cerfio nhw i roi yn y ffenestr nos Sadwrn, ma'r llunie ar Picasa a Facbook. Rhaid i fi weud bo fi'n itha impressed yn hunan da nhw, gan bo fi ddim yn artistig iawn!
Ma Gemau Rhyngwladol yr Hydref yn dechre penwythnos hyn, a co pryd i fi'n mynd i fod yn ridicilys o genfigenus o bawb gytre - yn enwedig Côr Caerdydd yn canu yn y stadiwm dydd Sadwrn hyn. Wy am wylio'r peth os wy'n gallu - ond wy ddim yn siŵr os gallai. Os unrhyw un mas na'n galli gweud wrthai lle gallai wylio'r gêm ar-lein. Wy'n gwbod allai wrando arno fe ar y radio os oes angen, ond gan bod y côr yn canu licsen i weld nhw os wy'n gallu!! Diolch!!
Comments