Posts

Showing posts from February, 2010

Cinio Gwyl Ddewi WSCO

Image
Wel ma hi’n ddydd Sul wy newydd fod yn gwylio’r 50km men’s Cross Country Classic, exciting stwff!! A wy nawr ar yn ffordd i Zumba nawr, bach o ymarfer corff ar ô gwylio y bobl mwyaf ffit yn y byd siŵr o fod!! Ta beth, ddoe on i yng nghinio Gŵyl Ddewi Cymdeithas Gymraeg Canolbarth Ohio (WSCO). On i’n gwneud dwy seminar, un ar y Mabinogi ac un ar Hanes Cymru. Odd y Seminar cyntaf am 9.30am, a fel chi’n siŵr bo chi’n gwbod ar ôl yn hanesion i o deithio lan a nol o Columbus nifer fowr o withe, ma hi’n cymryd bwyti ddwy awr i gyrradd lan. So es lan nos Wener ar ôl y gêm hynod HYNOD o gyffrous. Wel odd hwna’n bach o gamgymeriad (er, odd rhywun wedi gadel yn gynt yn y dydd ac ar ôl i fi siarad da nhw Dydd Sadwrn odd cyflwr yr hewl yn wael iddyn nhw fyd, so dylsen nhw fod wedi gweud wrthai am adel yn gynt, yn hytrach na thecstio am 5:30 i weud bod yr hewl yn wael, ac erbyn ny on i ar yn ffordd ac wedi dechre gweld yr hewl yn mynd yn wath). Ta beth, dim ond tua 40 munud yn ychwanegol gymrodd

Dewi Sant yn agosau

Image
Penwthnos dwetha blantos on i lan yng Ngholumbus unwaith eto. Ma Lowri druan wedi gorfod gadel OSU am resyme ariannol, ac ma hi erbyn hyn wedi cyrradd gytre (wy'n credu!), ar ôl iddyn nhw ganslo ffleits etc ddydd Llun pan odd hi fod i hedfan! Ta beth, es i lan nos Wener i fynd mas a dathlu tamed bach. Bu lot o joio, a gan bo fi ddim gytre nes bwyti 3am, don i ddim lan mewn digon o amser i wylio'r rygbi fore Sadwrn. damo yn wir. Ond..... ges i'r stori i gyd gan Gwenllïan, a Ieu a Mam!! Diolch i chi gyd! Odd hi'n Presidents Day ddydd llun (dathlu penblwydd Lincoln a Washington), so dim gwaith. Gwaith wedi'i ganslo dydd Mawrth achos yr eira, a gyrhaeddes i'n hwyr axhos yr eira ddydd Mercher. Nath hi'm sdopo bwrw eira dydd Mercher chwaith! Ma'r eira wedi'i glyro oddi ar yr hewlydd erbyn hyn, ond dyw e ddim wedi toddi oddi ar y caeau. Ma dal bron i droedfedd o eira yn y manne lle dyw e ddim wedi toddi to, and it aint getting any better! Ma hi fod i gadw i

Eira a dim chwaraeon

Image
Wel, dath yr eira nos Wener a bore dydd sadwrn. Bron i chwe modfedd gyda ni. Erbyn 11am odd yn hewl i wedi clyro ac on i'n meddwl allen i fynd i mewn i'r gwaith i wylio'r gêm. Es i ar hyd yr hewl, ond erbyn cyrradd yr hewl wy'n troi arni i gyrradd y brif hewl, dodd dim hewl i gal. On nhw ddim wedi'i chlyro hi eto. Felly troi nol amdani ac aros yn y tŷ yn aros am dexts gan Ieu a Gwenllïan am y sgôr. On i'n itha balch erbyn diwedd mod i heb allu wocho'r gêm achos bydde hi wedi bod yn hynod o depressing gwylio'r gêm ben yn hunan yn y swddfa a Chyrmu'n colli!! Ta beth, nes i ddim wocho'r Super Bowl chwaith, ond wy'n falch bod y Saints wedi ennill. Ail hanner cyffrous iawn yn ôl y sôn!. Fues i am wac ddydd Sul i dynnu llunie lan yn y fynwent - ma'r llunie i gyd ar Facebook. Ma mwy o eira ar y ffordd da ni heno a fory a thrw dydd Mercher, so ma na bosibilrwydd na fyddai yn y gwaith fory, cawn weled!

Penwthnos o Chwaraeon

Wel ma hi'n benwthnos mawr o chwaraeon penwthnos ma. Ma geme'r chwe gwlad yn dechre ddydd sul (as if you didn't know!!!). Ewch i weld trailer gyda Morgan Freeman fan hyn , ma fe'n HOLLOL wych. Fel ych chi'n siŵr o fod yn gwbod, sdim cysylltiad gyda'r rhyngrwyd gyda fi gytre, ac wy wedi bod yn dod mewn i'r gwaith i wylio geme rygbi yn y gorffennol (oni bai bo fi yn Columbus yn wocho fe yn y dafarn da Huw wrth gwrs!!). Wel ma na storom enfawr wrthi'n symud mewn i'r ardal ar hyn o bryd (gallwch chi weld y tywydd yn yn ardal i fan hyn ), ac wrth gwrs, os bydd hi'n bwrw eira, byddai ffili cyrradd y gwaith, yn anffodus. Ma'r gêm yn cael ei dangos ar BBCAmerica, ond wrht gwrs dyw BBCAmerica ddim da fi!! Gytid. Sooooo, byddai'n pestro pobl i gadw fi'n ypdêtid fia tecst os na byddai'n llu cyrradd y gwaith! grrrrr Reit y peth arall chwaraeon mawr sydd penwthnos ma yw Super Bowl XLIV (44 i chi sydd ddim yn Rhufeiniaid) mlân nos Sul am 7pm E

Gwersi Cymraeg

Ddim yn siŵr os wy di gweud neu bido mod i'n dysgu Cymraeg i fyfyrwyr a staff y brifysgol a gweddill y gymuned ar ddydd Mercher a dydd Iau. Yr un wers y ddou ddwrnod. Ma 20 o bobl wedi cofrestru da fi, sydd yn hollol wych! Wy'n rili rili mwynhau gweud e, ond gan bo fi heb wneud o'r blaen, sdim syniad da fi shwd wy'n neud! Os os da unrhywun unrhyw dips ar shwt i ddysgu Cymraeg (neu addysgu Cymrae ddylsen i weud!), gadwch goment! Fi'n defnyddio llyfre gwaith Dosbarth Nos Helen Prosser a Nia Parry, a ma fe'n gwitho'n dda iawn hyd yn hyn, a ma pawb felse nhw'n mwynhau a dros haner yn dangos cynnydd da iawn, a wy'n browd iawn!! Na'i gyd am nawr. Wy'n siwr bydd mwy da fi i'w weud erbyn diwedd yr wthnos ma!!