Dewi Sant yn agosau

Penwthnos dwetha blantos on i lan yng Ngholumbus unwaith eto. Ma Lowri druan wedi gorfod gadel OSU am resyme ariannol, ac ma hi erbyn hyn wedi cyrradd gytre (wy'n credu!), ar ôl iddyn nhw ganslo ffleits etc ddydd Llun pan odd hi fod i hedfan! Ta beth, es i lan nos Wener i fynd mas a dathlu tamed bach. Bu lot o joio, a gan bo fi ddim gytre nes bwyti 3am, don i ddim lan mewn digon o amser i wylio'r rygbi fore Sadwrn. damo yn wir. Ond..... ges i'r stori i gyd gan Gwenllïan, a Ieu a Mam!! Diolch i chi gyd!

Odd hi'n Presidents Day ddydd llun (dathlu penblwydd Lincoln a Washington), so dim gwaith. Gwaith wedi'i ganslo dydd Mawrth achos yr eira, a gyrhaeddes i'n hwyr axhos yr eira ddydd Mercher. Nath hi'm sdopo bwrw eira dydd Mercher chwaith! Ma'r eira wedi'i glyro oddi ar yr hewlydd erbyn hyn, ond dyw e ddim wedi toddi oddi ar y caeau. Ma dal bron i droedfedd o eira yn y manne lle dyw e ddim wedi toddi to, and it aint getting any better! Ma hi fod i gadw i fwrw eira ond and off am fis arall. Fel chi siŵr o fod yn gwbod, wy'n dwlu ar eira, a dyw hyn ddim yn rhoi fi off eira, ond ma fe braidd yn annoying trial dod mas o'r dreif, pan ti'n mynd yn sdyc yn yr eira seithgwaith!

Ta beth, digon am eira (llunie ar i ffordd i flickr a/neu facebook gyda llaw). Fel Cnaolfan ry'n ni'n derbyn cylchlythyron gan Gymdeithase Cymraeg ar draws y wlad, a wele beth ymddangosodd yng Nghylchlythyr wrth Gymdeithas Dewi Sant Pittsburgh. Ma fe'n ddiddorol iawn. On i'n gwbod am y rhan fwyaf o bethe sydd yn hwn, ond ddim y rhan am y Washington Monument. Fi ddim yn credu bod y darn yn gorffen fan hyn, ac wy'n chwilio am yr holl beth, ond co chi fe i'w ddarllen (os allwch chi!!)




Os ych chi'n moyn gweld e'n fwy o faint, ewch i fan hyn a zoomio mewn!

So wy ddim yn siŵr os y'ch chi'n gwbod mod i'n siarad yng Nghinio Gŵyl Ddewi Cymdeithas Gymraeg Canolbarth Ohio (WSCO) ar 27 Chwefror, yn Columbus. Wel os nagoch chi'n gwbod, na fi wedi gweud tho chi! Wy'n neud 2 seminar (un ar y Mabinogi, ac un ar Hanes Cymru), ac yn arwain y canu ar ôl y cinio. whiw, lot o waith, ond wy YN cal yn nhalu, sy'n gwd thing! Dechre poeni tam bach rili achos wy ddim wedi cwpla sgwennu'r things to, ond bydd e'n fine wy'n siŵr!!

Os y'ch chi fel fi, chi di bod yn gwylio cyment o'r Olympics a chi'n gallu!! Fi'n dwlu arno fe, a ma fe rili wedi rhoi fi yn y mŵd i fynd i sgïo ddiwedd mis Mawrth da Mam a Dad yn Stowe, Vermont. Hwre hwre!!!

DIWEDDARIAD DIWEDDAR!!! Wy newydd fod ar y ffôn gyda menyw o'r cwmni yswiriant sydd yn golygu bod yn claim i ar i ffordd nawr. 2 fis cyfan ers i fi gysylltu gyda'r cwmni yswiriant i ddechre, ma'n amlwg bod bygwth yr Ombwdsmon wedi gweithio!!!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!