Cinio Gwyl Ddewi WSCO

Wel ma hi’n ddydd Sul wy newydd fod yn gwylio’r 50km men’s Cross Country Classic, exciting stwff!! A wy nawr ar yn ffordd i Zumba nawr, bach o ymarfer corff ar ô gwylio y bobl mwyaf ffit yn y byd siŵr o fod!!

Ta beth, ddoe on i yng nghinio Gŵyl Ddewi Cymdeithas Gymraeg Canolbarth Ohio (WSCO). On i’n gwneud dwy seminar, un ar y Mabinogi ac un ar Hanes Cymru. Odd y Seminar cyntaf am 9.30am, a fel chi’n siŵr bo chi’n gwbod ar ôl yn hanesion i o deithio lan a nol o Columbus nifer fowr o withe, ma hi’n cymryd bwyti ddwy awr i gyrradd lan. So es lan nos Wener ar ôl y gêm hynod HYNOD o gyffrous. Wel odd hwna’n bach o gamgymeriad (er, odd rhywun wedi gadel yn gynt yn y dydd ac ar ôl i fi siarad da nhw Dydd Sadwrn odd cyflwr yr hewl yn wael iddyn nhw fyd, so dylsen nhw fod wedi gweud wrthai am adel yn gynt, yn hytrach na thecstio am 5:30 i weud bod yr hewl yn wael, ac erbyn ny on i ar yn ffordd ac wedi dechre gweld yr hewl yn mynd yn wath). Ta beth, dim ond tua 40 munud yn ychwanegol gymrodd hi i fi, odd yn cynnwys sdopio am betrol. Gyrhaeddes i’n saff heb brobleme rili. Fi’n gwbod bydd Mam ddim yn hapus (sori!), ond odd rhaid i fi dynnu llun o’r hewl i chi gal gweld pa fath o gyflwr odd e.

Ar ôl checio mewn nes i roi’r ffinishing touches ar y seminare, printio nhw mas, a bant a fi i’r bar am bach o fwyd a drinc bach, ac wrth gwrs gwlio’r olympics!! Fues i’n iste wrth y bar a ges i siom o’r ochr ore gyda’r bwyd. Er mai 2 appetizer ges achos odd dim arall ar ôl gyda nhw ar wahân i frechdane (wy ddim yn byta bara dros y Grawys). Ges i’r shrimp cocktail a mozzarella sticks gore erioed, blasus a on nhw’n dishgwl yn hyfryd fyd! Ta beth, digon am y bwyd. Adawes i am 8:30 y bore wedyn ar ôl brecwast blasus iawn, er mod i fod na am 9, a bod y lle ond 10 munud bant , on i ddim yn gwbod beth odd stad yr hewlydd. Odd yr hewlydd yn hollol glir erbyn y bore, so odd dim angen i fi adel mor gynnar, better safe than sorry tho fel ma’r Sais yn gweud.

So ath y seminare yn dda iawn, odd bwyti 20 yn y seminar cyntaf, a bwyti 40 fi’n credu yn yr ail un. Nes i rili fwynhau gwneud y ddwy seminar, lot yn fwy nag on i’n dishwgl gwneud! Wedyn yn odd bwyd, ac odd e’n hyfryd iawn. Ar ôl bwyd fi odd yn arwain cwpwl o emyne, a gan bo fi wedi’i wneud e yn y gymanfa ganu nol ym mis Medi odd e’n lot o hwyl a wy’n credu bod pawb wedi mwynhau. Ges i siec am fy nhrafferth, sydd yn rili mynd i helpu gyda Efrog Newydd ym mis Ebrill! Ges i hefyd darn mowr o gaws Y Fenni i ddod nol gyda fi! Ges i hefyd gyfle i siopa yn Worthington Hills (lle odd y cinio), so wy wedi gallu prynu pysgod ffres a bwydydd erill hyfryd sydd jest ddim ar gal yn yr ardal ma yn anffodus!

Bant â fi i zumba nawr – tata tan toc!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!