y Gymanfa

Fel ma rhai ohonoch chi'n gwybod, a rhai ohonoch wrth reswm felly ddim yn gwybod - fues i'n arwain Cymanfa Ganu ddoe yng Nghapel Tyn Rhos, Thurman, Ohio. Randym iawn rhaid gweud. Wy erioed wedi cael cyfle i arwain côr (diolch i anji parcky, neu Angharad Parchus i roi i henw llawn iddi), so odd arwen cymanfa yn od iawn. Odd dwy sesiwn, un am 10.30am, wedyn cinio, a wedyn sesiwn prynhawn am 1pm.

Cyn y Gymanfa, bues i yn Gallpolis yn yr Holiday Inn yn cael bwyd gydag amryw bobl odd yn ymwneud â'r Gymanfa; gan gynnwys Evan a Bet Davis a Joan Owen Mandry (syn gefnither i Eirlys sy'n mynd i Gwaelod y Garth gytre. On i'n gwbod bod cefnither gyda Eirlys mas ma, ond ddim yn gwybod pwy odd hi nes i fi siarad gyda Joan nos Sadwrn!).

So dydd Sul - es i i'r capel yn gynnar (ma fe jest lan yr hewl - nes i bostio am fynd am wâc lan na a thynnu llunie fan hyn - nôl ym mis Gorffennaf), wedi cael allwedd gan Evelyn y landlord y dwrnod cynt. On i na erbyn 9am, er mwyn cael 'feel' am y lle. Dim sbel wedyn dath y bobl odd yn agor y capel lan yn iawn i agor y ffenestri a'r blinds a'r shutters, ac odd hi'n hyfryd mewn na wedyn ny. Capel syml iawn, fel chi'n gallu gweld o'r llunie wy wedi llwytho i Picasa.

Ath popeth yn iawn ar y cyfan. Cynullidfa fach odd. Llai na 50 yn y bore a llai na 40 yn y prynhawn. Ond nes i wir fwynhau er bod safon y canu falle ddim mor dda, a ddim beth wy'n arfer da fe. Nes i hefyd ganu unawd, ath yn oce, o ystyried bod yn llais i ddim lan i sgratsh gan bo fi ddim yn canu nawr gan bo fi newydd ddod dros annwyd!

Profiad cadarnhaol dros ben. Ddim yn siŵr os basen i'n gwneud gyda chyulleidfa mwy deallus, ond joio ta beth. A on i'n wirioneddol wedi blino erbyn cyradd gytre. Twmlad itha neis a gwenud y gwir bod wedi blino go iawn ar ddiwedd dwrnod o waith!!!

Wy wedi cael gwahoddiad gan Evelyn i fynd gyda hi i i'w thŷ hi lan yng Nghanada. Yr unig broblem yw sai'n credu allai fynd chos ma rhaid i fi rhoi o leiaf pythefnos o notice i AIPT cyn gadel y wlad, ne fyddai ddim yn cael dod nol mewn! A wy'n credu i fod e'n costion $30 bob tro. so ar hyn o bryd wy ddim mor despryt i fynd lan na, ond wy wedi cysylltu gyda nhw i ffindo mas os yw e'n wahanol ar gyfer teithio i Ganada. Hefyd wy ddim yn hollol sicr mod i am dreulio cyment o amser gyda Evelyn......

Ta beth - cymerwch bip ar y llunie - ma nhw ym mhobman to - flickr, facebook a picasa. Dy'n nhw ddim yn wych, ond ma'n rhoi blas fi'n credu o'r math o beth sy'n mynd mlan yn yr ardal ma.

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw