bw his

sai'n credu bodneb braidd yn darllen hwn, so smoi'n siwr pan wy'n boddran. Sdim lot da fi wedu heddi, fel arfer. Annwyd dal ma ac yn mynd ar yn nerfe i. Ma'n mynd ar yn nerfe i fyw gan mod i'n gwaith yn neud dim gwaith gan bod di rili gwaith da fi i wneud. A bydde man a man bo fi gytre, ond na ni, dim ots.

Ma'r tywydd yn ddiflas ma ar hyn o bryd fyd, nage bod ots achos smo i'n cal cyfle lot o fynd mas i'r tywydd, ond wedi gweud ny, allen i sen i rili moyn sbos. ta beth. Wy'm yn lico nofio traq bod annwyd da fi, ddim yn neis iawn, so trial ffindo rhwbeth arall i neud....awgrymiade?

Comments

Cerith said…
join the Amish and build a barn?!
LlioLlio said…
dwi'n darllen hwn!
iawn - trio sefydlu grŵp darllen efo staff/myfyrwyr y coleg?
-gweu? (alli di weu lot o betha exciting - fydd y tywydd yn mynd yn andros o oer yn y gaea dwch?!)
-...gai thinc i ti!
hefyd - ma rhaid i ti ffeindio bar/rhwla sy'n gwerthu Guinness i ti gael ei yfad o am 17.59 dydd iau Medi 24 - pb Guinness yn 250 oed!whw xx
LlioLlio said…
hefyd yn hoffi awgrym Cerith! :)
Rhys Wynne said…
Newydd ddod ar draws dy flog (tra'n gwglo 'Criw'r Drindod - ond sonia i ddim mwy am hynny!)

Os wyt ti eisiau i bobol ddod i wybod am dy flog, y lle gorau i ddechrau fyddai gofyn i Aran Jones os caiff ei ychwanegu at y Blogiadur - mae llawer o bobll yn ymweld â'r wefan yna.

Dw i'n cofio mwynhau darllen blog Clynog Prys a fuodd ar yr un rhaglen a ti yn 2004:

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!