di-bwer

Heb flogio ers y penwythnos. Nes i fennu lan ddim yn mynd mas am ddrinc da Llio nos Sadwrn wedi'r cyfan chos mod i'n idiot, ond llai am ny. Ges i amser hyfryd yng Ngholumbus, a odd e'n gret gweld Llio a chwrdda'i ffrind hi Chloë sydd wedi cynnig i fi fynd i'w gweld hi lan yn Cleveland ddiwedd mis nesa.

So ta beth. Gethon ni doriad yn y pŵer heddi. Yn ôl y sôn odd na linell drydan ar dân, a fuodd e bant am bwyti awr a hanner. Wedyn fe ddychwelodd. Gwd ow, ond bach o egseitment ddiwedd haf (hydref rili ond ma hi'n braf ma!!)! Ma'r trydan yn diflannu ma yn itha aml dros y gaeaf yn ôl pob tebyg, a wy ddim yn hollol siŵr be fydd yn digwydd bryd ny, chos trydan sy'n rheoli popeth yn yn fflat fach i, dim ond un heater nwy ben y stâr sy na! hmmmm, so croesi bysedd am i ni beidio â chlli trydan weden i!!

Wy bant gytre nawr i gal nof fach. Wy ddim yn neud lot, ond wy'n trial nofio bob nos, gan obitho adeiladu lan faint fi'n neud. Dyw e ddim yn lot, fel fi'n gweud, ar hyn o bryd, ond gobitho, pan bydd e'n lot byddai'n llu neud 3 gwaith yr wthnos. ie.gwd ow

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw