annwyd o hyd

Yn ôl mam odd y postiad dwetha na'n suicidal! Odd e ddim i fod gyment fel ny rili!! Just wedi cal digon ar fod yn y gwaith o 8-5 (ac aros yn hwyrach os wy'n sgeipo), a dim gwaith i'w wneud mewn gwirionedd.

On i ddim yn y gwaith ddoe nac echddoe (wel es i gytre am 11am ar ôl gwers fer gyda'r boi dysgu Cymraeg). A dos dim byd da fi i ddala lan da fe - sy'n dangos cynlleied sydd i'w wneud ma. Ma rhaid i fi neud peth ymchwil ar gyfer y Cymanfaoedd dydd Sul (jest bach o hanes ar yr emynwyr/cyfansoddwyr), a wy'm yn gwbod os wy'n hollol dishgwl mlan achos wy eriod wedi gwneud y fath beth o'r blan. Sai hyd yn od wedi arwen côr rili. Ta beth, os os unrhyw tips da unrhywun - gadwch i fi wbod. Wy wedi cal un yn barod 'just esgus mai ti yw Alun Guy' - lle da i ddechre weden i!! Wy hefyd yn canu unwad - but the less said about that the better fi'n credu....

Ar ôl y Gymanfa dydd Sul, ma cyfweliad Radio da fi dydd Mawrth. Wel ma fe'n cal i recordio dydd Mawrth. Ma'r holl fyfyrwyr o'r drindod yn neud y cyfweliad bob blwyddyn yn ôl y sôn, a ma'r fenyw sy'n gwneud y cyfweliade yn sgriptio'r cyfweliade o'r wybodeth ma hi'n cal a felly ma rhaid stico at y sgript, so dyw e ddim yn naturiol o gwbl. Ddim chwaith yn siŵr faint o bobl sy'n gwrando ar y rhaglen; yn ôl Jeanne, dim lot!!

So na ni am nawr - wy'n gwbod bod dim lot o lunie wedi bod yn ddiweddar - nai drial tynnu llunie o'r tymor yn troi ma, achos ma'n itha pert a gweud y gwir!

Comments

Cerith said…
shwd ma'r boi dysgu cymraeg yn dod mlaen? / How's the welsh learning guy coming along!?

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw