Not such a great wythnos

Sori am y bad Welsh yn y teitl, ond wy'n twmlo fel bad Welsh ar y funud. WYthnos itha gwael hyd yn hyn. Nes i ddim sôn yn y postiad dydd Llun bod cwpl o Gymru (y ddau'n wreiddiol o'r gogledd ond yn byw yng Nghaerdydd ers sbel), odd yn digwydd bod yn yr ardal wedi dod i'r Gymanfa bnawn dydd Sul. Wel i dorri'r stori'n fyr, gath y wraig aneurism ar i hymenydd ac aethpwyd a hi mewn hofrennyd i'r ysbyty yn Huntiongton , ar ôl iddi fod yn yr ysbyty lleol fan hyn. So prynhawn Llun ath Jeanne a fi i Huntington i ôl y gwr i ddod a fe nol fan hyn i ôl eu car nhw o'r motel, tra bod hi'n cael llawdriniaeth. Heb glwyed dim ers 'ny, so wy'n gobeithio i bod hi'n oce, a dos dim ffôn symudol gyda fe so allwn ni byth cysylltu gyda fe i weld os yw hi'n oce. So odd dydd Llun yn itha ryff rili.

Wedyn ddoe, ar ôl cino, dath e-bost o Goleg y Drindod yn gweud bod dim myfyrwyr yn mynd i ddod draw ym mis Ionawr. Sy'n golygu bydd siŵr o fod r'un faint o waith da fi neud pryd ny a sda fi nawr, ond bydd dim myfyriwr da fi i ddysgu Cymraeg iddo fe. grêt. Ma'n rhaid gweud bo fi'n gytid. Jeanne wedi bod yn gweud bo ni siŵr o fod well off hebddyn nhw, gan bod pobl wedi bod yn consyrnd amdanyn nhw cyn hyn. Sai'n cytuno, ond na ni.

Nes i gyfweliad radio bore ddoe fydd ar y radio rhywbryd yn yr wythnose nesa, ddim yn cofio pryd, ond nai drial cal copi os os modd.

Comments

LlioLlio said…
pam bo' myfyrwyr y Drindod ddim yn dod? o gyted!

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!