Posts

Showing posts from August, 2009

Penwythnos

Dim postiad pryfoclyd tro ma. Dim byd lot wedi digwydd dros y penwythnos, ar wahân i bo fi wedi prynnu peiriant coffi - hynod Americanaidd. Ma'n dechre edrych felse fi'n prynu appliance newydd i'r fflat bob penwthnos (wel hŵfyr penwthnos dwetha a hwn penwthnos ma!!) , hah, wel na! On i wedi bod yn dishgwl am beiriant coffi neu gafetiére ers cyrradd, chos sdim byd gwath da fi na choffi instant! Oni bai bo fi'n hollol despryt a bod dim coffi go iawn - ac yn yr achos na - nai jest cal te yn lle! Ta beth $25 odd e. 12 cup! mahoosive, so bargen wy'n credu, a man neud coffi neis, so allai jest troi fe mlan rol dihuno a chal coffi i fynd i'r gwaith da fi (ma fe'n semi-intelligent [ieie fel fi, I know ha.ha.]so wy'n llu llenwi fe da popeth sy ishe a neiff e ddim dechre nes bo fi'n troi'r switsh mlan -cŵl.) So ni off i Pittsburg i'r North American Fesitval of Wales dydd Iau , a ni nol dydd Llun. Ma hi'n Ŵyl y Banc da chi heddi a wy'n gobitho b

Gwybodaeth Dechnolegol

Ma Jeanne yn dysgu un dosbarth o LA10101-Freshman Success ddwywaith yr wythnos (Ma pob myfyriwr newydd yn gorfod cymryd y dosbarth a ma na sawl dosbarth gwahanol). Dydd Mawrth a dydd Iau am 11.30 ma'r dosbarthiade da hi. Wy wedi bod i'r ddau ddosbarth cynta da hi, ac ar ôl yr un cynta ron i'n meddwl i bod hi'n bod yn itha nawddoglyd, neu bod y cwrs yn un rhwydd ofnadw, un o'r cyrsie na sydd fel sgwennu'ch enw ar bapur arholiad yn golygu bo chi'n cael 2 farc neu rhywbeth. Cwrs allwch chi ddim rili ffaelu oni bai eich bod chi ddim yn i gwpla fe. Y rheswm wy'n gweud hyn yw, er bo da nhw dasg i'w gwneud bob wythnos - beth odd yn cael ei alw'n Journal - y dasg ar gyfer yr wythnos gytaf oedd bywgraffiad, un tudalen (double spacing). Nawr ma cwblhau'r Journals ma yn cyfrannu at y marc ar gyfer y cwrs, a chyn belled a'u bod nhw'n sgwennu rhywbeth, ma nhw'n mynd i basio rili. Dyw tudalen double spacing ddim yn lot, rhyw 500 gair falle? ta

dim ffliw moch

Ypdêt bach i chi gyd - sdim ffliw moch arna i, a dim hyd yn oed annwyd sai'n credu - ddim yn dost rhagor. Ma dant doethineb wedi bod yn tyfu bach yn ddiweddar, so ma'n bosib ma hwna odd e (itha tebygol a gweud y gwir), so wy jest yn gobitho nawr na fydd dim yn digwydd iddo fe. Dim pen tost na twmlo'n crap rhagor ta beth so wy'n siŵr byddai'n ffain. Dyw hyn ddim yn brêcing niws, ond ma fe'n bwysig i fi. Tan nawr don i ddim yn gallu rhoi to ar ŵ ac ŷ yn y blog am ryw reswm, dodd y shortcyt ddim yn gweithio fel odd e ar gyfer pob llythyren arall on i ishe. Ond fe ffindes i'r codes html ar gyfer rhoi'r to ar lythrenne, so wy'n llu neud na nawr a ma tŷ yn dishgwl yn gywir a dim fel ty!! Joio bod yn gîc fi! Sdim byd arall wedi digwydd yn fy mywyd bach od i ers i fi flogio ddwetha, ond on i'n ofni peidio blogio rhag ofn bo fi'n cael stŵr to - you know who you are, and I know where you live - grrrr!! So na ni am nawr, a wy'n siŵr bydd mwy da fi w

idiocracy a pethe ddim mor idiotig!!

Wedi cael cwyn bod fi heb bostio ers sbel, so co ni'n mynd!!! Nes i fwynhau'r erthygl ma ar y BBC ynghylch jôcs gore yn Ngwŷl yr Edinburgh Fringe (anth Dad hala'r rhestr atai wedyn weles i fe ar-lein). Nes i DDIM joio'r erthygl hon , ac yn meddwl fwy nag erioed bod Americanwyr yn gallu bod yn HYNOD o sdiwpid, a nath e nghythruddo fi! (y ddwy erthygl yn ymwneud â'r Alban - diddorol...) Ta beth, nes i ddihuno bore ma gyda llwnc tost a phen tost (wel odd y pen tost da fi ers nos Sadwrn fwy neu lai'n constant), a wy'n credu bod rhyw fath o annwyd ar y ffordd da fi. Un ai na nwu swine ffliw (nes i brynu hŵfyr dydd Sadwrn a odd e'n 'made in Mexico', so falle bod y ffliw wedi dianc wrth i fi agor y box, a la rhyw bennod o'r Simpsons....). Nai gadw llygad ar yn hunan!!! So wy wedi ffindo cwpwl o beiri o sgidie (diflas wy'n gwbod, ond ma rhai o chi am wbod hyn!) a bits a bobs eraill pan on i'n siopa dydd Sadwrn so wy'n hapus. Dodd dim amy

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

Image
Cyfrannwyd nifer o eitemau gan Dr Robert Burns, Florida i Amgueddfa Treftadaeth Cymry America yn Oak Hill, Ohio. Roedden nhw'n perthyn i'w ddiweddar wraig oedd a'i theulu yn hannu o Gymru (fel ei deulu ef). Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe bai gan unrhywun wybodaeth allai fod o help i ni ddarganfod gwerth (er mwyn yswirio, ac er mwyn dibenion treth Dr Burns) neu mwy o wybodaeth ynghylch unrhyw rai o'r darnau. Mae lluniau o bob darn o sawl ongl mewn albwm picasa, ac mae'r albwm i'w gweld fan hyn . Hyd yn oed os nag oes gwybodaeth gyda chi, edrychwch ar y llunie ma nhw'n ddiddorol iawn, a ma'n siwr bod rhywbeth na sy'n debyg i rhywbeth sydd gyda chi yn y teulu, a bydden i'n ddiolchgar iawn o gal gwbod am unrhywbeth fel na! Gadewch neges yn ymateb i'r blog, anfonwch neges twitter neu neges facebook neu anfonwch ebost atai sionedwyn@googlemail.com. Falle bydde diddordeb gyda chi'n gweld y ddwy ddogfen ma fyd. Declaration of Intent Anne gwr

Newyddion Trist

Trist iawn clywed bore ma (trwy Twitter, cyn i fi weld yr erthygle ar wefan y BBC [ Saesneg , Cymraeg , llunie ]), bod yr hen Dic Yr Hendre wedi marw. Odd hi'n fraint cael bod wedi cael yn urddo ganddo fe yn Eisteddfod Caerdydd a bydd yr Orsedd, yr Eisteddfod a Chymru gyfan yn gweld ei ishe fe'n fawr iawn. Anodd bod mor bell a ffili siarad da neb sydd cweit yn deall pa mor bwysig yw pobl fel Dic i Gymru, er i bod nhw'n gweud eu bod nhw'n Gymry, dy'n nhw ddim yn deall mewn gwirionedd.

Gwasanaethau Iechyd

Rhaid i fi weud bod y busnes slaggo'r GIG off, (sy'n digwydd yn America nawr achos yr Healthcare reform ma sy'n trial cal i basio) yn mynd yn hollo nyts ac yn hollo afresymol. Ma Americanwyr a phobl o'r DU (gan gynnwys gwleidyddion - toris wrth gwrs) wedi bod yn gweud bod y GIG yn gadael i hen bobl farw achos bo nhw ddim gwerth i cadw'n fyw a gweud bod pobl yn gorfod defnyddio sipergliw i ludo dannedd nol achos bod deintyddion yn gwrthod i gweld nhw. Yn amlwg ma hyn i gyd yn gelwydd neu yn achos y siwpergliw yn estyniad enfawr ar y gwir. Wy yn i chanol hi fan hyn, a hyd nes wythnos ma wedi bod y gweud bod dim lot o wahanieth rhwng y ddwy system yn y pen draw - lle bo fi'n cynhyrfu'r dyfroedd. Ond ar ôl i fi ddysgu mwy am y ddwy system a'r gwahaniaethau, does dim dowt da fi y byddai'n sefyll lan dros y GIG nawr. Ges i gomment gan Louis, gwr Jeanne, mai system iechyd America odd y gore yn y byd, a nawr on i'n gwbod bod hwna ddim yn wir, ond on i d

Stwff wy ddim di gweud!

Oce - so ma na cwpwl o beht wy'n cadw anghofio gweud pan wy'n siarad da pobl a phan wy'n blogio. Ma Evan Davis wedi gofyn i fi arwen y canu yn y gymanfa ganu yn Ty Rhos yn yr hydref achos bod neb arall gyda nhw i neud ar y funud. Sai erioed wedi neud o'r blan - so unrhyw tips PLîS!!! Fi yw llywydd y Cardig Club am eleni a Lauren yw'r is-Lywydd. Dim syniad pam, nes i ddim rhoi'n enw mlan a nath neb rili gofyn i fi nehton nhw jest cyhoeddi fe yn y mhicnic croeso i - od, a wy ddim hyd yn oed yn gwbod beth sydd angen i fi wneud. A i'r rhai o chi sy'n wherthin Cardigan as in Abertwifi nid Cardigan as in beth ti'n wishgo pan ma hi'n ôr wy'n sôn amdano fe!! Ma na sianel ar y teledu a'r subscription sy da fi sy'n dangos lods o raglenni prydeinig, gan gynnwys Dr Who. So ges i Wocho Dr Who yr un gyda New New York a Cassandra - pennod gyflawn gynta Tennant wy'n credu! A dim hysbysebion o gwbl!!! YMESING!!! Oce na'i gyd wy'n credu mo

Afiach

On i jest am weud pa mor ridicilys o embarrasing yw hwn http://www.sourcewire.com/releases/rel_display.php?relid=LzgTL . Odi hyn yn dangos mai dyma'r math o beth allwn ni disgwyl o'r ffôn Cymraeg newydd ma? sillafiadau anghywir, geiriau wedi'u dyfeisio a sart ar yr iaith? Gobeithio ddim

te

Nes i ffindo mas nithwr bod y soffa yn y fflat yn soffa-wely! Newyddion da sy'n golygu bod lle i fwy nag un person ddod i aros (os ddeiff unrhyw un!!), ma lle i 3 pherson rili, so na ni. Ma hyn felly'n profi mod i ddim yn gwbod popeth am y fflat eto, so wy'n dishgwl mlan at ffindo mwy o bethe newydd! Wy o'r diwedd wedi cofio dod â llath mewn i'r sywddfa sy'n golygu mod i'n gallu neud dishgled (neu 5) i'n hunan yn ystod y dydd yn hytrach na gorfod mynd mas a gwario arian ar de neu goffi. Odd 'creamer' i gal yn y swyddfa, ond sori na, afiachbeth yw e! Dim chans. A nage bod te/coffi yn ddrud iw brynu, rhywbeth fel $2 am un mawr, ond nage na'r pwynt ife?! So wy'n cal gyment o de a wy'n moyn heb orfod poeni bod pobl yn meddwl bo fi'n sgeifo wrth fynd mas i ol un drw'r amser, neu bo fi'n gorfod mynd hebddo! Ma'n od iawn bo fi mewn gwirionedd yn ifed bwyti 4 dishgled o de yn y gwaith bob dydd. Withe mwy hyd yn oed. Ond pan wy

gwarchod ty

Ma gwaarchod ty (house sitting) yn ridilcilys o americanaidd wy'n gwbod. Wy ffili hyd yn oed credu bod e actiwali'n digwydd tu fas i ffilmie a rhaglenni teledu predictable!! So ar y funud, tra bo lot o chi'n mwynhau oriau ola'r Eisteddfod ym Maes B/C/gigs Cymdeithas neu wedi mwynhau diwedd y sdeddfod a nawr yn cysgu (neu wedi paso mas!!) wy newydd fod am dip ola yn y pwll gan i bod hi'n 6.30pm fan hyn a ma'r haul wedi diflannu dros do'r ty a dyw hi ddim yn ddigon twym i aros mas yn fy nhankini rhagor yn mynd mewn a mas o'r pwll!! So ma'r cwn mewn yn y ty da fi (y rheswm penna odd angen i fi fod ma i warchod y ty oedd fel bod dim angen rhoi'r tri chi yn y cenels) a wy'n ifed glasied arall o win, ac yn sychu bant. Fi am fynd i wylio'r haul yn machlud mewn bwyti awr a hanner ish, achos yn ôl y sôn ma fe'n hyfryd fan hyn! Y ty (a'r cwn) wy'n gwarchod yw ty jeanne fy mos sydd gyda'i gwr mewn rhyw expo/cynhadledd/sioe win (ma

penwffnos (ac ail bostiad y dydd - dalwch mlan i'ch llygod....)

Image
oce co fi to. Swper dwper ecseeitid am gwpwl o resyme am penwthnos ma. Ma Jeanne wedi rhoi llond bag o fasil i fi so wy'n mynd i neud lot a lot o besto. Troi mas bo chi'n llu rhewi pesto - y ffordd ore yw fel ais ciwbs wedyn , wedyn roi nhw mewn bagie. syniad da sen i'n gweud. Yr ail beth yw bod Jeanne wedi gofyn i fi ddishgwl ar ôl y ty a'r cwn dros y penwythnos tra'i bod hi a'i gwr mewn rhyw gynhadledd/expo o ryw fath (ma'i gwr hi'n gwerthu gwin!!). So wy'n cal bod wrth y pwll drw'r penwthnos os wy'n moyn, so wy'n siwpyr gyffrous i gal neud y gore o'r tywydd!! Y trydydd peth (mw hwn fel pregeth....) yw bo ni nol i oriau arferol dydd Llun. Ond nid yr oriau on i'n meddwl on nhw. 8-5 gyda awr i ginio yw'r oriau, sy'n sili i fi chos wy ddim yn cymryd awr i ginio. Ond odd Jeanne yn gweud bo nhw'n llu bod yn hyblyg os wy'n moyn, cawn weld! Ddim yn gwybod os oes hysbysebion am y ffilm ma di bod da chi gytre ond wy'n

Mwy o Eisteddfota

Lot o Eisteddfota i fi ddoe - a noson dda o gystadlu odd hi hefyd! Y cystadlu yn wych ar bob cystadleuaeth a nes i wir fwynhau!! O feirniadaeth Alun Guy o'r core ieuenctid, on i'n disgwyl mai'r Waun Ddyfal fase'n mynd â hi, ond Ysagol Gerdd Ceredigion ath a hi gyda'r Waun Ddyfal yn ail a Chôr Iau Glanaethwy yn drydydd. Gan bod Ieu ac eraill wy'n nabod yn y Waun Ddyfal on i'n hapus. On i hyd yn oed yn fwy hapus bod Merched y Ddinas wedi ennill y gystadleuaeth Parti Cerdd Dant yn gynharach yn y diwrnod. Wy wedi cael cyfle i wrando arnyn nhw erbyn hyn a on nhw'n wych whare teg!! Llongyfarchiade hefyd i Meggan Prys ar ennill Medal y Dysgwyr! Ma hi'n dod o Ohio ac odd Jeanne'n i nabod hi'n dda. Ma hi'n briod a boi o'r enw Cynog (fi'n credu, neu falle Cynan) a fe odd un o'r ddau olaf i ddod mas i Rio Grande ar Ysgoloriaeth Evan Davis - sydd nawr wedi'i droi'n Internship, sef beth wy'n neud! Byd bach hyd yn oed tu fas i G

Eisteddfota

Wedi bod yn gwylio'r Eistedfod drwy'r bore ac yn trydar! Heddi yw'r diwrnod llawna o bethe wy am u gwylio heddi. Ma Gwenllïan a Ieu yn Cystadlu mewn bobo gystdaleuaeth, y Fedal ryddiaith a thlws y cerddor. Dishgwl mlan yn wir! Wedi clwyed stori am daith dad gytre o'r Bala i Gaerdydd nos Lun - bwrw mochyn daear enfawr lawr. Cyn mynd i'r gwaith fore Llun mynd i'r garej i checo rhag ofn bod niwed i'r car - ffili cyrradd y garej achos odd y rheiddiadur yn cwmpo off!!! miloedd o bunne o niwed i'r car yn ôl y sôn! awch. a do, bu farw'r momchyn daear - Dad yn amlwg yn trial dynwared y roadkill sda fi fan hyn!!! Ma'r gwahanol Band Camps dal wrthi'n drymio tu fas i'r ffenestr! Ddim yn swir os wy wedi sôn am hyn o gwbwl a gweud y gwir. Bob wthnos ma na wahanol fandie o wahanol ysgolion ac ardaloedd yr ardal yn dod i aros ar y campws ac i ymarfer. Ma nhw'n aml yn ymarfer tu fas gan i bod hi'n braf - ac ma paw yn gwbod bod ymarfer tu fas yn d

storm a hanner

Wel ma hi jest abowt yn dechre goleuo ma nawr (hanner dydd!!) ni wedi cal storm mellt a tharane enfawr a odd hi'n dywyll iawn, ond sai'n credu bo ni wedi gweld y gwaetha ohono fe eto rywsut. Ma mwy i ddod erbyn diwedd y prynhawn! Wy wrthi'n wocho sdeddfod yn barod i weld gwobr goffa Daniel Owen, a ma Cerian newydd ennill y ddawns stepio. Gethon ni lythyr ddoe gan foi sydd yn y carchar yn California ac yn dysgu Cymraeg i'w hunan!! Dim syniad pam, ond na ni, so wy wedi gorfod ffindo lot o wahanol wefanne ayb sy'n helpu chi i ddysgu Cymraeg i'ch hunan! Na gyda sda fi weud am nawr - nol at y sdeddfod!

Coroneiddio

Wel wy wedi llwyddo gwylio'n seremoni gynta i o ben draw'r byd!! Yr unig broblem yw i bod hi'n twmlo fel diwedd y dydd nawr er bod hi ddim yn 1pm to - gytid! Odd e'n neis gallu adnabod Ceri Wyn Jones pan safodd e lan (wy ddim yn aml yn nabod y bobl ma o'u gweld nhw!). Fues i'n tweeto yn ystod y seremoni fyd a odd rheini yn ymddangos ar wefan y BBC wrth i'r seremoni fynd yn i blan, cyn belled â bo fi'n rhoi #eisteddfod yn y tweetiad! Fel wedes i gyne fach fyd, treni nad odd Dic o'r Hendre yn ddigon iach i fod na. O beth wy'n cofio llynnedd dodd e ddim n holliach pryd ny chwaith. Cwestiwn - Odd Ieu yn yr osgordd ar y llwyfan? Dodd Merch y fro ddim mor dda a Gwenllïan llynedd, a odd mam y from yn dishwgl braidd yn ddiflas! Ond joies i rhaid gweud y gwir, er bo fi'n genfigenus IAWN ac yn gwel ishe pawb mwy nag eriod nawr! Cerith wedi cal syniad da, bo fi'n seto pabell fach lan yn y swyddfa ag esgus bo fi yn y sdeddfod! gwych. Nai fynd a'r

postiad interim!

Image
Wy'n sylweddoli mod i heb flogio o gwbl ers dydd mercher diwethaf, ond na ni, sdim byd lot wedi digwydd!! Wy wrthi'n gwylio seremoni'r coroni ar hyn o byrd a gweud y gwir. Sylweddoli bod Dic o'r Hendre ddim na, treni mowr, goitho fydd e'n well. A gobeitho bydd teilyngdod. Odd y picnic croeso i fi dydd Sul yn hyfryd. Odd bwyti 20 o bobl na a lot gormod o fwyd! Nath y tywydd bara yn braf trw'r pnawn yn lwcus! Nes i neud pice ar y man (diolch i'r awgrym gwreiddiol gan Delyth, a'r rysait gan Mam!), a ethon nhw lawr yn wych! Wy'n mynd i fynd nawr a trial cadw llygad mas i weld os yw Ieu wedi penderfynnu bod yn orseddogyn ar y llwyfan heddi!! A wrth gwrs gweld pwy sy'n cael ei g/choroni!!! hwyl am y tro