storm a hanner

Wel ma hi jest abowt yn dechre goleuo ma nawr (hanner dydd!!) ni wedi cal storm mellt a tharane enfawr a odd hi'n dywyll iawn, ond sai'n credu bo ni wedi gweld y gwaetha ohono fe eto rywsut. Ma mwy i ddod erbyn diwedd y prynhawn!

Wy wrthi'n wocho sdeddfod yn barod i weld gwobr goffa Daniel Owen, a ma Cerian newydd ennill y ddawns stepio.

Gethon ni lythyr ddoe gan foi sydd yn y carchar yn California ac yn dysgu Cymraeg i'w hunan!! Dim syniad pam, ond na ni, so wy wedi gorfod ffindo lot o wahanol wefanne ayb sy'n helpu chi i ddysgu Cymraeg i'ch hunan!

Na gyda sda fi weud am nawr - nol at y sdeddfod!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!