te

Nes i ffindo mas nithwr bod y soffa yn y fflat yn soffa-wely! Newyddion da sy'n golygu bod lle i fwy nag un person ddod i aros (os ddeiff unrhyw un!!), ma lle i 3 pherson rili, so na ni. Ma hyn felly'n profi mod i ddim yn gwbod popeth am y fflat eto, so wy'n dishgwl mlan at ffindo mwy o bethe newydd!

Wy o'r diwedd wedi cofio dod â llath mewn i'r sywddfa sy'n golygu mod i'n gallu neud dishgled (neu 5) i'n hunan yn ystod y dydd yn hytrach na gorfod mynd mas a gwario arian ar de neu goffi. Odd 'creamer' i gal yn y swyddfa, ond sori na, afiachbeth yw e! Dim chans. A nage bod te/coffi yn ddrud iw brynu, rhywbeth fel $2 am un mawr, ond nage na'r pwynt ife?! So wy'n cal gyment o de a wy'n moyn heb orfod poeni bod pobl yn meddwl bo fi'n sgeifo wrth fynd mas i ol un drw'r amser, neu bo fi'n gorfod mynd hebddo! Ma'n od iawn bo fi mewn gwirionedd yn ifed bwyti 4 dishgled o de yn y gwaith bob dydd. Withe mwy hyd yn oed. Ond pan wy gytre gaf i 1 falle, os ny. Os rhywun arall fel hyn, mond yn te-obsessed yn y gwaith? Wy ddim yn gwbod beth yw e, ond na ni, na fel ma hi!

Ma'r llosg ges i ddydd Sul mas yn yr haul ac yn y pwll drw'r dydd (odd hi'n 93 gradd am 5.30 a odd hi di bod lot twymach....) wedi mynd rili erbyn heddi. Silibili odd e, ddim wedi rhoi'r eli haul drosta i i gyd, yn ogystal â dim rhoi fe'n ddigon aml mewn rhai manne.wps. O leia' nes i ddim llosgi'n wyneb. Wy'n dueddol o fod yn hynod o ofalus ohono fe - god knows pam!

Nol a fi at ifed te a gwneud dim gwaith te - ta ta tan toc

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw