postiad interim!


Wy'n sylweddoli mod i heb flogio o gwbl ers dydd mercher diwethaf, ond na ni, sdim byd lot wedi digwydd!! Wy wrthi'n gwylio seremoni'r coroni ar hyn o byrd a gweud y gwir. Sylweddoli bod Dic o'r Hendre ddim na, treni mowr, goitho fydd e'n well. A gobeitho bydd teilyngdod.

Odd y picnic croeso i fi dydd Sul yn hyfryd. Odd bwyti 20 o bobl na a lot gormod o fwyd! Nath y tywydd bara yn braf trw'r pnawn yn lwcus! Nes i neud pice ar y man (diolch i'r awgrym gwreiddiol gan Delyth, a'r rysait gan Mam!), a ethon nhw lawr yn wych!

Wy'n mynd i fynd nawr a trial cadw llygad mas i weld os yw Ieu wedi penderfynnu bod yn orseddogyn ar y llwyfan heddi!! A wrth gwrs gweld pwy sy'n cael ei g/choroni!!!

hwyl am y tro

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!