Newyddion Trist

Trist iawn clywed bore ma (trwy Twitter, cyn i fi weld yr erthygle ar wefan y BBC [Saesneg, Cymraeg, llunie]), bod yr hen Dic Yr Hendre wedi marw. Odd hi'n fraint cael bod wedi cael yn urddo ganddo fe yn Eisteddfod Caerdydd a bydd yr Orsedd, yr Eisteddfod a Chymru gyfan yn gweld ei ishe fe'n fawr iawn. Anodd bod mor bell a ffili siarad da neb sydd cweit yn deall pa mor bwysig yw pobl fel Dic i Gymru, er i bod nhw'n gweud eu bod nhw'n Gymry, dy'n nhw ddim yn deall mewn gwirionedd.

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy