gwarchod ty

Ma gwaarchod ty (house sitting) yn ridilcilys o americanaidd wy'n gwbod. Wy ffili hyd yn oed credu bod e actiwali'n digwydd tu fas i ffilmie a rhaglenni teledu predictable!! So ar y funud, tra bo lot o chi'n mwynhau oriau ola'r Eisteddfod ym Maes B/C/gigs Cymdeithas neu wedi mwynhau diwedd y sdeddfod a nawr yn cysgu (neu wedi paso mas!!) wy newydd fod am dip ola yn y pwll gan i bod hi'n 6.30pm fan hyn a ma'r haul wedi diflannu dros do'r ty a dyw hi ddim yn ddigon twym i aros mas yn fy nhankini rhagor yn mynd mewn a mas o'r pwll!! So ma'r cwn mewn yn y ty da fi (y rheswm penna odd angen i fi fod ma i warchod y ty oedd fel bod dim angen rhoi'r tri chi yn y cenels) a wy'n ifed glasied arall o win, ac yn sychu bant. Fi am fynd i wylio'r haul yn machlud mewn bwyti awr a hanner ish, achos yn ôl y sôn ma fe'n hyfryd fan hyn!

Y ty (a'r cwn) wy'n gwarchod yw ty jeanne fy mos sydd gyda'i gwr mewn rhyw expo/cynhadledd/sioe win (ma'i gwr hi'n werthwr gwin - fab achos ma wastad gwin neis yn eu ty nhw. Mae e wedi gadel poteli ar boteli o win sydd wedi'u hagor yn y ffrij a mas odd ar ôl ar ôl diwrnod blasu gwin so ma lot o ddewis o win da fi!!!). So wy ma yn bwydo'r gwin a'r gath (sai byth yn i gweld hi bron!!) a joio'r haul a'r pwll. Hyfryd. Fel ma nhw'n gweud yn yr iaith fain 'a change is as good as a break' (wy'n credu ma na'r dywediad ond na'r jist ta beth!) so ma hi bach fel gwylie (yr haul a'r pwll) er bo fi'n gorfod bwydo'r cwn (sydd ddim yn dasg wy ddim yn lico gan bod y cwn yn fab!!), a wy di rili joio hyd yn hyn.

Yn gyffredinol wy'n mwynhau lawrlawytho gwahanol bodlediadau o iTunes. Yn bennaf (i'r rhai o chi sydd ag unrhyw fath o ddiddordeb) 'The Archers', 'Friday Night Comedy', 'Point of View with David Attenborough' 'Stephen Fry's Podgrams'. Wy'n llu llwytho nhw yn y gwaith a gwrando arnyn nhw yn y ty. A ma fe'n gret a wy'n twmlo fel bo fi ddim yn jogïan o flaen y teledu drwy'r amser ac yn gwrando ar y radio yn lle! Wy'n awgrymu'n gryf eich bod chi'n gwrando ar, neu'n llwytho Point of View David Attenborough (gwych a 15munud yr un), hefdy yn llwytho podgrams Stephen Fry os ych chi'n mwynhau Stephen Fry!!

On i'n mynd i roi llunie o'r lle a'r cwn lan, ond dim digon o signal, fe wnai roi nhw lan cyn bo hir (dydd Llun ma'n siwr). Ni nol i oriau arferol dydd Lllun (8-5 gydag awr i gino lle bod unrhyw un yn cal e'n rong....) so dim mwy o benwythnose hir, ond mwy o bol ambwyti'r lle gobitho! Cadwch ddarllen!!

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw