penwffnos (ac ail bostiad y dydd - dalwch mlan i'ch llygod....)

oce co fi to. Swper dwper ecseeitid am gwpwl o resyme am penwthnos ma. Ma Jeanne wedi rhoi llond bag o fasil i fi so wy'n mynd i neud lot a lot o besto. Troi mas bo chi'n llu rhewi pesto - y ffordd ore yw fel ais ciwbs wedyn, wedyn roi nhw mewn bagie. syniad da sen i'n gweud.

Yr ail beth yw bod Jeanne wedi gofyn i fi ddishgwl ar ôl y ty a'r cwn dros y penwythnos tra'i bod hi a'i gwr mewn rhyw gynhadledd/expo o ryw fath (ma'i gwr hi'n gwerthu gwin!!). So wy'n cal bod wrth y pwll drw'r penwthnos os wy'n moyn, so wy'n siwpyr gyffrous i gal neud y gore o'r tywydd!!

Y trydydd peth (mw hwn fel pregeth....) yw bo ni nol i oriau arferol dydd Llun. Ond nid yr oriau on i'n meddwl on nhw. 8-5 gyda awr i ginio yw'r oriau, sy'n sili i fi chos wy ddim yn cymryd awr i ginio. Ond odd Jeanne yn gweud bo nhw'n llu bod yn hyblyg os wy'n moyn, cawn weld!

Ddim yn gwybod os oes hysbysebion am y ffilm ma di bod da chi gytre ond wy'n mynd i weld Julie & Julia nos fory. Gyda Meryl Streep fel Julia Childs (fel rhyw fth o Delia Smith America nol yn y 50au ish) a ma'n edrych yn ffilm wych a bydda i'n joio wrth gwrs gyda'r holl goginio. Wy'n mynd gyda Lauren y fyfyrwraig ddath i Washington da ni.

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!