Eisteddfota

Wedi bod yn gwylio'r Eistedfod drwy'r bore ac yn trydar! Heddi yw'r diwrnod llawna o bethe wy am u gwylio heddi. Ma Gwenllïan a Ieu yn Cystadlu mewn bobo gystdaleuaeth, y Fedal ryddiaith a thlws y cerddor. Dishgwl mlan yn wir!

Wedi clwyed stori am daith dad gytre o'r Bala i Gaerdydd nos Lun - bwrw mochyn daear enfawr lawr. Cyn mynd i'r gwaith fore Llun mynd i'r garej i checo rhag ofn bod niwed i'r car - ffili cyrradd y garej achos odd y rheiddiadur yn cwmpo off!!! miloedd o bunne o niwed i'r car yn ôl y sôn! awch. a do, bu farw'r momchyn daear - Dad yn amlwg yn trial dynwared y roadkill sda fi fan hyn!!!

Ma'r gwahanol Band Camps dal wrthi'n drymio tu fas i'r ffenestr! Ddim yn swir os wy wedi sôn am hyn o gwbwl a gweud y gwir. Bob wthnos ma na wahanol fandie o wahanol ysgolion ac ardaloedd yr ardal yn dod i aros ar y campws ac i ymarfer. Ma nhw'n aml yn ymarfer tu fas gan i bod hi'n braf - ac ma paw yn gwbod bod ymarfer tu fas yn dda i chi achos yr awcwstics ayb (gall Ieu esbonio'n well ma'n siwr!!!). Wel dy'n ni ddim yn cal clywed y chwythbrenne na hyd yn oed y pres, o na. Tu fas i'n ffenestri ni ma'r drymie'n ymarfer. Nawr pidwch a nghamddeall i, wy'n joio bandie chwyth ayb a percussion. Ond ma gryndo arnyn nhw'n ymarfer yn uffern!! Yn enwedi os os pen tost, neu os wy'n trial gryndo ar gystadleuaeth hyfryd ar y laptop o'r Eisteddfod!!

Falch dros ben i glywed i bod hi'n braf yn y bala heddi a bod lot o bobl di dod i'r maes - ciwio am chwarter awr medde nhw - siwr bod Gwenllïan yn fishi wa! hihi.

Hefyd rhwybeth on i heb weud sia'n credu yw bod merch o'r ardal ma yn un o'r pedwar sydd yn cystadlu am Ddysgwr y Flwyddyn! Ma hi'n briod â'r boi ola ddath mas i Rio Grande ar Ysgoloriaeth Evan Davis, yr un arian a sy'n talu amdana i nawr, ond i fod e wedi newid i internship yn hytrach nag ysgoloriaeth nawr. Cymhleth - odi, ond basically ma Meggan Prys wedi bod yn dysgu Cymraeg ac yn y running i ennill Dysgwr y Flwyddyn.

Nol a fi i wylio'r Fedal Ryddiaith nawr a wy'n dishwgl mlan atr y cystadlu a Thlws y Cerddor wedyn - hwre hwre!!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!