Penwythnos

Dim postiad pryfoclyd tro ma. Dim byd lot wedi digwydd dros y penwythnos, ar wahân i bo fi wedi prynnu peiriant coffi - hynod Americanaidd. Ma'n dechre edrych felse fi'n prynu appliance newydd i'r fflat bob penwthnos (wel hŵfyr penwthnos dwetha a hwn penwthnos ma!!) , hah, wel na! On i wedi bod yn dishgwl am beiriant coffi neu gafetiére ers cyrradd, chos sdim byd gwath da fi na choffi instant! Oni bai bo fi'n hollol despryt a bod dim coffi go iawn - ac yn yr achos na - nai jest cal te yn lle! Ta beth $25 odd e. 12 cup! mahoosive, so bargen wy'n credu, a man neud coffi neis, so allai jest troi fe mlan rol dihuno a chal coffi i fynd i'r gwaith da fi (ma fe'n semi-intelligent [ieie fel fi, I know ha.ha.]so wy'n llu llenwi fe da popeth sy ishe a neiff e ddim dechre nes bo fi'n troi'r switsh mlan -cŵl.)

So ni off i Pittsburg i'r North American Fesitval of Wales dydd Iau , a ni nol dydd Llun. Ma hi'n Ŵyl y Banc da chi heddi a wy'n gobitho bod pawb yn mwynhau'r dwrnod ola off ychwanegol tan y Dolig. Dos dim gŵyl y banc da ni fan hyn, ond ma hi'n Labor Day dydd Llun nesaf (7 Medi), sy'n wylie ac hefyd y diwrnod ŷn ni'n teithio yn ôl o Pittsburg! Typical. Ond y bwriad yw gadael yn weddol gynnar er mwyn cael amser off cyn mynd nôl i'r gwaith dydd Mawrth. Ma na wi-fi yn y gwesty (Hilton - powsh) ym Mhittsburg, so gobeithio byddai'n gallu blogio tra mod i yna neu o leiaf cadw mewn cysylltiad - ddim yn siŵr faint o amser rhydd bydd gyda ni rili!

Na ni am nawr - siŵr bydd mwy da fi wedu cyn hir, so pidwch mynd ymhell!!

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw