Coroneiddio

Wel wy wedi llwyddo gwylio'n seremoni gynta i o ben draw'r byd!! Yr unig broblem yw i bod hi'n twmlo fel diwedd y dydd nawr er bod hi ddim yn 1pm to - gytid!

Odd e'n neis gallu adnabod Ceri Wyn Jones pan safodd e lan (wy ddim yn aml yn nabod y bobl ma o'u gweld nhw!). Fues i'n tweeto yn ystod y seremoni fyd a odd rheini yn ymddangos ar wefan y BBC wrth i'r seremoni fynd yn i blan, cyn belled â bo fi'n rhoi #eisteddfod yn y tweetiad!

Fel wedes i gyne fach fyd, treni nad odd Dic o'r Hendre yn ddigon iach i fod na. O beth wy'n cofio llynnedd dodd e ddim n holliach pryd ny chwaith. Cwestiwn - Odd Ieu yn yr osgordd ar y llwyfan? Dodd Merch y fro ddim mor dda a Gwenllïan llynedd, a odd mam y from yn dishwgl braidd yn ddiflas! Ond joies i rhaid gweud y gwir, er bo fi'n genfigenus IAWN ac yn gwel ishe pawb mwy nag eriod nawr!

Cerith wedi cal syniad da, bo fi'n seto pabell fach lan yn y swyddfa ag esgus bo fi yn y sdeddfod! gwych. Nai fynd a'r laptop tu fas, cwpwl o ddrincs a esgus bo fi yn y bar Guinness yn yr haul -on second thought dyw haul a sdeddfod ddim rili yn neud sens na....

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw