Mwy o Eisteddfota

Lot o Eisteddfota i fi ddoe - a noson dda o gystadlu odd hi hefyd! Y cystadlu yn wych ar bob cystadleuaeth a nes i wir fwynhau!! O feirniadaeth Alun Guy o'r core ieuenctid, on i'n disgwyl mai'r Waun Ddyfal fase'n mynd â hi, ond Ysagol Gerdd Ceredigion ath a hi gyda'r Waun Ddyfal yn ail a Chôr Iau Glanaethwy yn drydydd. Gan bod Ieu ac eraill wy'n nabod yn y Waun Ddyfal on i'n hapus. On i hyd yn oed yn fwy hapus bod Merched y Ddinas wedi ennill y gystadleuaeth Parti Cerdd Dant yn gynharach yn y diwrnod. Wy wedi cael cyfle i wrando arnyn nhw erbyn hyn a on nhw'n wych whare teg!!

Llongyfarchiade hefyd i Meggan Prys ar ennill Medal y Dysgwyr! Ma hi'n dod o Ohio ac odd Jeanne'n i nabod hi'n dda. Ma hi'n briod a boi o'r enw Cynog (fi'n credu, neu falle Cynan) a fe odd un o'r ddau olaf i ddod mas i Rio Grande ar Ysgoloriaeth Evan Davis - sydd nawr wedi'i droi'n Internship, sef beth wy'n neud! Byd bach hyd yn oed tu fas i Gymru!!

Ma drymie'r band camp tu fas yn hala fi'n nyts - ma nhw ar y funud yn swna felse plentyn wedi cal gafel ar y dryms ac yn whare ambwyti!!! AAAAAAAAAAAA

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw