Diolch 2020

Neithiwr fe es i drwy bob lun dynnes i yn 2020. A waw nath e roi gwên ar yn wyneb i. Er na fydde’r lunie’n golygu bron dim i chi, ma nhw’n atgof o flwyddyn anodd, ond hefyd yn atgofion o ddyddie oedd yn syrpreising o dda. O feddwl nôl dros 2020 wy wedi chwerthin lot lot lot, ac wedi cael amser bythgofiadwy gyda ffrindie sydd wedi dod yn agosach dros y cyfnod. Peidiwch â nghael i’n rong, wy wedi llefen hefyd, mwy nag unrhyw flwyddyn ers iddyn nhw ganslo Wil Cwac Cwac. Ond yn aml iawn ma’r llefen di bod yn lefen hapus, neu’n gathartig, a beth yw’r ots ta beth?! Ma llefen yn neud lles.

Ma’r llune yn lot o atgofion da o sgïo dros y flwyddyn newydd da criw da o ffrindie hen a newydd. Eira, golygfeydd grêt, lot o gaws a gwin, a lot o joio. 

Eisteddfod Caerdydd!! Cymysgfa o lunie chwe gwlad, gan gynnwys rendition poignant o Sweet Caroline (touching meeeee, touching yooooou), cwpwl o gigs (cofio gigs, waaa), Tylwyth yn y Sherman (!!) a wedyn lockdown.





Drwy gydol yr amser fues i’n byw gyda mam a dad yn ystod lockdown, wnaeth y tri o ni fwyt’n dda iawn iawn. Ac yfed yn dda iawn iawn! Dynnes i lun o bron pob pryd swper gethon ni (fe wna i eu casglu nhw at ei gilydd rhwbryd), a ma edrych arnyn nhw’n atgoffa fi o fod gyda mam a dad ac o pa mor lwcus odw i bod fi wedi gallu mynd atyn nhw. Ma nhw’n sêr, wir.

Ma na lunie di-ri o Casi (ci mam a dad) ym mhob pose posibl, a fidios ohoni’n rhedeg ac yn cael funny 5 minutes. Mam bach gadwodd hi ni’n hapus. Ma ci yn gyfaill, wir dduw.






Ac wrth gwrs ma na gannoedd o lunie a screen shots o zoom! Rhai ohonyn nhw’n well na’i gilydd, ond pob un yn codi gwên fach. Arwydd o gyfeillgarwch da i fi yw’ch bod chi’n gallu malu cachu dros zoom yr un faint ag ych chi’n gwneud yn y pyb!


A sôn am y pyb, ma na lunie o’r adege lle gafon ni fynd mas i fwyta ac i yfed. A gallai weud â llaw ar y nghalon bod pob pryd mas ers y lockdown wedi bod yn un gwerth chweil. Wedi bod mewn bwytai lleol, lot ohonyn nhw’n newydd, a lot ohonyn nhw’n fach, ond pob un wan jac ohonyn nhw’n fflipin flasus. A wy am gario’r trend ma’n mynd mlaen i 2021. Dim mwy o fwyta mewn chains (lle bynnag bod modd osgoi), a chefnogi busnesau bach lleol ym mhob ffordd posibl.

A wedyn ma rhai o’n hoff lunie i sef fy ffrindie a nhelu gorjys, hileriys a mental. Lot ohonyn nhw yn yr ardd o gwmpas tanllwyth o dân, a phob un ohonyn nhw yn llawn pobl yn gwenu (heblaw un o Rhiannon a neb dal yn gwbod pam bod hi’n gwgu). A nid gwenu gwag. Fel wedes i, ni wedi cael blast pan ni wedi bod yn cael cwrdd. Ac odi ma’r flwddyn ma wedi bod yn rili rili anodd. Am resymau gwahanol i lot o bobl. Ni wedi colli pobl, ni wedi colli’n gilydd a ni wedi colli’r plot. Ond ni wedi bod yn lwcus dros ben i allu wneud na gyda’n gilydd.

Os odych chi’n berson llunie, plîs ewch drwy’ch llunie o 2020, wy’n addo y wnaiff e godi gwên ar ddiwedd blwyddyn hynod o depressing. Achos wedi’r cwbwl, ni’n tynnu llunie o bethe sy’n ein gwneud ni’n hapus nagyn ni? (nobody mention bod ni’n cddio beie tu ôl i wenu ffug, iawn!!!)

Fy ngobaith i yn 2021 yw am fwy na dwy gwtsh gyda’n nithod, cael gweld mwy na dau o’n ffrindie, a brechlyn.

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!