Posts

Showing posts from September, 2010

Caws

Image
So penwythnos ma fues i i'r wyl gaws yng Nghastell Caerdydd, on i wedi bod yn dishgwl mlan am oesoedd pysoedd, and boy did it live up to my expectations. Cymaint o gaws a chymaint o seidr blasus blasus. Nes i sylweddoli mai caws yw un o'r ung bethe allen i ddim byth rhoi lan. Ma cyment o gaws da fi yn y ty, ma digon da fi i bara nes Nadolig. Love it. I fod yn onest deps doim byd arall yn digwydd yn yn fywyd i ar y funud, a does dim da fi i weud, so tata tan toc.

trafnidiaeth gyhoeddus

Oce, so ma unrhywun sy'n yn adnabod i yn gwbod mod i bach o buff trene. Dim buff yn yr ystyr mod i'n gwylio trene ac yn eu hadnabod nhw ayb, ond wy'n teithio ar y trên bron a bod bob dydd. Wy'n teithio i'r gwaith bob dydd ar y trên ac yn aml yn mynd mewn i'r dref neu lawr i'r Bae ar y penwythnos. Fi'n lico meddwl hefyd mod i'n berson itha 'gwyrdd', wnai ddim defnyddio'r car heblaw bod gwir angen (gan bod y trên mor gyfleus, mond 4 munud lawr yr hewl ma'r orsaf), fi'n ailgylchu ac ailddefnyddio ac yn tyfu llysie a ffrwythe yn yr ardd, a flwyddyn nesaf bydd na rhandir hefyd i dyfu mwy o gynnrych. ond ta beht nid pwynt y blogiad hwn yn sôn am pa mor wyrdd ydw i. Y bwriad yw trafod y trene. yn enwedig trennau Arriva Cymru ar y Linellau'r Cymoedd. Ma pris tocyn un ffordd o Landaf i Fae Cardydd yn £2.10 a thocyn dwy ffordd yn £2.90. Yn amlwg fel arfer fi'n mynd i ac yn dod nol o'r gwaith felly bydde tocynh dwy ffordd yn gw

nol i flogio

Wy wedi gweld ishe blogio ers i fi ddychwelyd o America. Felly wy am barhau i wneud, os wnewch chi ngodde i! Sai'n siŵr beth fydd da fi i'w weud, ond cewn ni weld! Wy wedi bod yn dost dros y penwthnos a wy dal ddim yn iawn, so wy gytre heddi. A wy'n dala lan da teledu weles i ddim dros y penwthnos. Wy wedi wocho Merlin yn barod - clasur, falch bod y gyfres newydd yn addo bod cystel â'r un flaenorol. Wy hefyd newydd wylio  Pen Talar . Ma hwn hefyd yn addo bod yn dda. Pennod gyntaf wych, a wy'n gobeithio y gwneiff e les i S4/C a gorfodi safon y rhaglenni lan a chodi nifer y gwylwyr. Ta beth, sdim egni da fi i flogio mwy heddi, ond wy yn llwytho llunie taith Gwenllïan a finne o gwmpas America ar facebook  os ych chi am gal pip! ciao am nawr