trafnidiaeth gyhoeddus

Oce, so ma unrhywun sy'n yn adnabod i yn gwbod mod i bach o buff trene. Dim buff yn yr ystyr mod i'n gwylio trene ac yn eu hadnabod nhw ayb, ond wy'n teithio ar y trên bron a bod bob dydd. Wy'n teithio i'r gwaith bob dydd ar y trên ac yn aml yn mynd mewn i'r dref neu lawr i'r Bae ar y penwythnos. Fi'n lico meddwl hefyd mod i'n berson itha 'gwyrdd', wnai ddim defnyddio'r car heblaw bod gwir angen (gan bod y trên mor gyfleus, mond 4 munud lawr yr hewl ma'r orsaf), fi'n ailgylchu ac ailddefnyddio ac yn tyfu llysie a ffrwythe yn yr ardd, a flwyddyn nesaf bydd na rhandir hefyd i dyfu mwy o gynnrych.

ond ta beht nid pwynt y blogiad hwn yn sôn am pa mor wyrdd ydw i. Y bwriad yw trafod y trene. yn enwedig trennau Arriva Cymru ar y Linellau'r Cymoedd. Ma pris tocyn un ffordd o Landaf i Fae Cardydd yn £2.10 a thocyn dwy ffordd yn £2.90. Yn amlwg fel arfer fi'n mynd i ac yn dod nol o'r gwaith felly bydde tocynh dwy ffordd yn gwneud synnwyr. Sy'n dod â chyfanswm wythnos waith i £14.50. Sydd ddim yn ddrud, a llai fetio'i fod e'n rhatach na gyrru i'r gwaith bob dydd. Ac mae e'n gwneud mwy o synnwyr ymhob ffordd (achos traffig gwirion Caerdydd, ma'n cymryd awr i fi yrru 5 milltir i'r gwaith os odw i'n gadael y tŷ am 8). Ond aha, gwrandowch, wy'n gallu prynu tocyn wythnos sy'n ddilys am saith diwrnod am £10.70. Sy'n arbed £3.80 yr wythnos i fi o leiaf, a wy'n gallu defnyddio'r tocyn i fynd unrhywle rhwng Radur a Bae Caerdydd basically sy'n wych, so wy'n gallu arbed lot mwy.

Ond dyma dwi'n bwrw ato fe (diolch am aros da fi, OS y'ch chi wedi hynny yw....) wy'n prynnu tocyn wythnos achos pe rhywun yn dod i foyn am docyn bob siwrne ar y tren bydde fe werth e, ond anaml iawn ma na gondyctyr yn dod o gwmpas y trên i edrych ar docyne. Does dim barriers yn Llandaf na'r Bae felly does dim rhaid i fi gael tocyn i fynd ar y platfform nac ar trên. Ma na foi bach yn Llandaf yn gwerthu tocynnau, ond dyw e didm yn checio tocyne, so sdim rhaid prynu wrtho fe.

Yn aml dros yr wythnose diwethaf wy wedi meddwl y basen i wedi gwario llai o arian pe bai fi ond wedi prynu tocyn pan nath rhywun ofyn i fi am un. Y nghwestiwn i yw, pam NAD yw'r conductors yn checio tocynne wrth fynd o gwmpas, nid dim ond y gofyn pwy sydd ishe tocyn. A gallen i fod yn anghywir fan hyn, ond pe bai bariers ar bob grosaf yn gorfodi pawb i gael tocyn, bydde dim llai o bobl yn defnyddio'r trên o ddydd i ddydd (pobl yn teithio i'r gwaith ayb), a bydde;r cyfran o bobl sy'n prynu tocyn yn cynyddu ac felly bydde gyda nhw fwy o arian i wario ar gael mwy o drenau ar y leins. Achos, ma na gyment o bobl yn defnyddoi'r trene, ac yn aml iawn, yn ystod yr amsere prysuraf, dau gerbyd sydd i bob trên! Ni'n byw ym mhrifddinas Cymru, dinas ifancaf Ewrop ac un o'r dinasoedd sy'n tyfu a datblygu fwyaf ar hyn o bryd. So pam bod ein trafnidiaeth gyhoeddus ni mor behind the times? 


Sai'n moyn pregethu, ond wy'n credu i bod hi'n amlwg bod strwythur trafnidiaeth gyhoeddus Cymru, ac yn benodol Ceardydd yn ein dal ni nol. Wy'n falch ac yn ddiolchgar mod i'n GALLU defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd, ac mae e'n mynd ar yn nerfe i pan fo pobl yn gwrthod gwneud neu ddim yn elwa o wasanaeth sy'n gyfleus iddyn nhw. Ond dyw hwna ddim i weud mod i'n meddwl fod y system yn berffeth nac hyd yn oed yn dda o bell ffordd. Ma angen mwy o gyllid a strwythur ar drafidiaeth gyhoeddus, neu does dim ots faint o ddatblygu wnewn ni, byddwn ni fyth yn wlad nac yn ddinas lewyrchus achos fydd pobl ddim yn gallu mynd o un lle i'r llall.

Rant drosodd, be chi'n meddwl am y sefyllfa yng Nghaerdydd neu'ch ardal chi?!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy