nol i flogio

Wy wedi gweld ishe blogio ers i fi ddychwelyd o America. Felly wy am barhau i wneud, os wnewch chi ngodde i! Sai'n siŵr beth fydd da fi i'w weud, ond cewn ni weld!

Wy wedi bod yn dost dros y penwthnos a wy dal ddim yn iawn, so wy gytre heddi. A wy'n dala lan da teledu weles i ddim dros y penwthnos. Wy wedi wocho Merlin yn barod - clasur, falch bod y gyfres newydd yn addo bod cystel â'r un flaenorol. Wy hefyd newydd wylio Pen Talar. Ma hwn hefyd yn addo bod yn dda. Pennod gyntaf wych, a wy'n gobeithio y gwneiff e les i S4/C a gorfodi safon y rhaglenni lan a chodi nifer y gwylwyr.

Ta beth, sdim egni da fi i flogio mwy heddi, ond wy yn llwytho llunie taith Gwenllïan a finne o gwmpas America ar facebook os ych chi am gal pip!

ciao am nawr

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy