Posts

Showing posts from March, 2010

rhwng dau wylie!

Image
Os ych chi wedi bod yn dal y'ch anadl yn aros i fi flogio ar ôl dod nol o Sgïo ac yn poeni mod i heb wneud rol dychwelyd ac yn meddwl "o na ma hi wedi cal niwed mowr"....Worry no more ffrinidiau, wy wedi cyrradd nol yn saff! A hynny heb gwympo unwaith (sai'n siŵr shwd nes i fanijo na, ond na ni!). Nai ddechre da'r gwesty - Stowe Mountain Lodge . (Llun ohono o'r tu fas wedi'i oleuo). Cystal, os nad gwell na'r wefan. Bar a bwyty hyfryd (os braidd yn ddrud), diodydd blasus dros ben - cwrws lleol hyfryd a choctêls amrywiol a blasus iawn. Bwyd hyfryd bob noson, ta ble on ni, yn enwedig Lamb Gnocci y noson gyntaf ym mwyty Solstice yn y Gwesty, a Veal y noson olaf yn y Cottage, jest ar bwys y gwesty. Digon am y bwyd, at y sgïo. Wel odd e'n real eira'r gwanwyn. Lot o slwsh, twym i sgïo a sawl sawl sawl cawod o law yn anffodus. Wedi gwario LOT o arian ar basys ar gyfer y liffts (mwy na warion ni'n heiro sgïs) am 6 dwrnod, nethon ni sgïo 5 dwrnod. N

Bant a fi!

Wel co ni te, ma'r dwrnod di dod - SGÏO!!!! shoop shoop shoop! Wedi siarad gyda Mam bore ma, on nhw ar fin mynd ar yr awyren yn Amsterdam i hedfan i Boston. Fi yn gwaith drw'r dydd, dim i'w wneud braidd, wedyn off a fi lan i Columbus heno i hedfan i gwrdda nhw yn Boston fory! Fel ych chi siŵr o fod wedi dyfalu - wy'n rili egseitid! hah! Ac ar ben y cyfan oll, wedi i fi ddod nol, mond jest dros wythnos fydd nes bo fi'n mynd i Efrog Newydd, bargen!! Nes i neud pice ar y mân nithwr ar gyfer y daith fory (gyrru o Boston i Stowe). a wy di cal unbore ma a ma nhw'n siwpyr blasus!! DIshgwl mlan i fyta mwy nawr!! Ar y daith fory byddwn ni'n pasio hebio Salem, so wy'n credu falle dylsen ni sdopo na, jest so say we did like! joio Di mwy i'w weud nawr, ond hwyl fawr. Falle nai gadw chi'n ypdetid via twitter.com/sioden so cadwch lygad! otherwise, welai chi'r ochr draw yn saff a dal mewn un pishyn gobitho. a plaster cast is NOT the attire of choice in NYC

dim i'w wneud a lot o gyffro

Image
Wi mor egseitid am fynd i sgïo dydd Gwener, co chi lun o'r ylgfa wrth gerdded nôl o'r slopes un noson a wedyn fi a Llill (fy annwylaf chwaer Y Gwenllïan Haf!) ar lifft sgïo, y ddau yn Les Gets yn 2007. joio! Nes i zumba neithiwr, y tro cyntaf i fi fynd ar nos Lun, a'r tro cyntaf i fi neud dwy noson ar y trot, odd e'n itha anodd ar yn shins i (crimog yw shin yn Gymraeg - who knew?!) So mas am fwyd heno gyda menyw sy'n gwneud y cwrs Cymraeg da fi, ddim yn sicr le ni'n mynd, ond ma fe yn Jackson rhywle!! Wedyn bach o baco a neud yn siŵr bod popeth wedi'i olchi fi ishe mynd da fi! Wy'n credu bod popeth yn lân, wy wedi bod yn itha trefnus whare teg i fi! Dal heb benderfynnu os os angen/os odw i am ddefnyddio'r sdwff gwrth-ddŵr ar yn ddillad newydd i.....Ma nhw o safon uchel so sai'n credu bod ishe. Hefyd sdim rili lle addas i wneud. Ffili neud yn y garej achos bod y furnace na, a ma'r anifeilied yn byw na. so bydde rhaid i fi neud e tu fas wedyn

trethi, sgïo a rygbi

Wel ma hi'n ddydd Llun unwaith eto, ac unwaith eto wy yn y gwaith heb ddim byd i'w wneud! Diflas. Ma angen i fi wneud Tax Return, ond wy'n hynod o conffiwsd, a wy'n siŵr ych bod chi i gyd yn cytuno mai nid dydd Llun yw'r diwrnod gore i wneud trethi! So dydd Sadwrn fues i lan yng Ngholumbus yn siopa am ddillad sgï, wel am ffaff. Odd rhestr o bwyti naw mil chwe chant saith deg tri o siope da fi lle falle bydde dillad sgïo. On i wedi ebsotio lot ohonyn nhw dydd Gwener i weld os odd dillad ar ôl da nhw, ac odd lot wedi ateb yn gweud bod braidd dim da nhw rhagor. A na beth odd stori yn y mwyafrif o'r siope es i iddyn nhw. Wel erbyn 5 o'r gloch, on i wedi cal digon ac ishe mynd gytre, rol dreifo rownd Columbus i gyd a wedi bod mewn cannoedd o siope (OK falle on i wedi bod mewn 10), so Aspen Board and Ski odd y siop ola. Odd y siope erill wedi bod yn siope chwaraeon, ac odd hon yn siop sgïo arbennigol (yn amlwg), a lo and behold, odd na bethe na odd yn ffito fi!!

Amser blogio unwaith eto

Image
Wel co ni'r blode bach cynta i ymddangos yn y patshyn o dyfiant o flaen yn fflat i. Saffrwm pert. Dydd Sadwrn dwetha odd hyn, a wy'n credu bod rhai melyn wedi dechre ymddangos erbyn hyn fyd, ond rownd cornel y tŷ so bydd yn rhaid i fi fynd i ymchwilio! Wy wedi bod yn itha bishi yr wythnos ddiwetha ma. Nes i gynnig helpu Plaid mas, gan mod i'n methu gwneud y canfasio arferol, so wy wedi bod yn cyfieithu iddyn nhw, ac yn teimlo braidd yn hunangyfiawn am y peth! Ha! Na, rili nes i fwynhau gwneud, ac ma'en un ffordd o wybod y polisïau tu fewn tu fas!! Wy hefyd wedi bod yn edrych ar ôl fy Amish Cinamon Bread , neu Friendship Bread . Ma fe'n gwitho fel hyn. Ti'n cal bag ziplock wrth ffrind gyda'r starter ynddo fe. Dros gyfnod o ddeg diwrnod ti'n neud yn siwr bod ti'n gadael yr aer allan o'r bag os os peth yn mynd mewn, ychwanegu fflwr, siwgr a llath iddo fe unwaith ac ar y degfed dwrnod ti'n coginio fe. Nithwr odd y degfed diwrnod. Beth ti'n ne

mis Mawrth yn barod!

Wel co ni wedi cyrradd ms Mawrth yn barod! Ma amser yn mynd yn itha cloi nawr! Pythefnos i nawr bydda i a Mam a Dad wedi cyrraedd Stowe Mountain Lodge , a falle hyd yn oed yn cal sgïad fach!! A wedyn pythefnos ar ôl ny, fi a Cerith yn mynd i Efrog Newydd am gwpwl o ddyddie!! Rili egseitid am y ddau beth. Os os da unrhyw un unrhyw tips am Efrog Newydd, lemme have it. Ar hyn o bryd ni wedi trefnu mynd i Lliberty ac Ellis Island ac i weld Avenue Q. Ni'n moyn mynd i weld y Brooklyn bridge a'r sights i gyd. Gadewch goment neu ebostiowch fi gydag awgrymiade o lle i fynd! Prif bwrpas y postiad ma yw hyn: Wy wedi bod yn edrych nol dros fy mlogio ers i fi gyrradd, a wy'n sgwennu llai a llai bob mis, so wy'n mynd i rili trial sgwennu o leiaf ddwywyaith yr wythnos, cyn belled a bod RHYWBETH da fi i weud!! Wy wedi bod mewn dosbarthiade 4th grade (plant 8/9 oed fi'n credu) ysgolion Gallia Local dros yr wythnose diwethaf yn gwneud sesiynau ar Gymru gyda'r plant. Siarad am dre