dim i'w wneud a lot o gyffro
Wi mor egseitid am fynd i sgïo dydd Gwener, co chi lun o'r ylgfa wrth gerdded nôl o'r slopes un noson a wedyn fi a Llill (fy annwylaf chwaer Y Gwenllïan Haf!) ar lifft sgïo, y ddau yn Les Gets yn 2007. joio!
Nes i zumba neithiwr, y tro cyntaf i fi fynd ar nos Lun, a'r tro cyntaf i fi neud dwy noson ar y trot, odd e'n itha anodd ar yn shins i (crimog yw shin yn Gymraeg - who knew?!)
So mas am fwyd heno gyda menyw sy'n gwneud y cwrs Cymraeg da fi, ddim yn sicr le ni'n mynd, ond ma fe yn Jackson rhywle!! Wedyn bach o baco a neud yn siŵr bod popeth wedi'i olchi fi ishe mynd da fi! Wy'n credu bod popeth yn lân, wy wedi bod yn itha trefnus whare teg i fi! Dal heb benderfynnu os os angen/os odw i am ddefnyddio'r sdwff gwrth-ddŵr ar yn ddillad newydd i.....Ma nhw o safon uchel so sai'n credu bod ishe. Hefyd sdim rili lle addas i wneud. Ffili neud yn y garej achos bod y furnace na, a ma'r anifeilied yn byw na. so bydde rhaid i fi neud e tu fas wedyn hongian nhw yn y tŷ rhywle, achos yn ogystal â bod gartref i'r anifeilied ma'r garej yn drewi! pwff. Na ddigon am nawr
Comments
Woop!