Amser blogio unwaith eto

Wel co ni'r blode bach cynta i ymddangos yn y patshyn o dyfiant o flaen yn fflat i. Saffrwm pert. Dydd Sadwrn dwetha odd hyn, a wy'n credu bod rhai melyn wedi dechre ymddangos erbyn hyn fyd, ond rownd cornel y tŷ so bydd yn rhaid i fi fynd i ymchwilio!

Wy wedi bod yn itha bishi yr wythnos ddiwetha ma. Nes i gynnig helpu Plaid mas, gan mod i'n methu gwneud y canfasio arferol, so wy wedi bod yn cyfieithu iddyn nhw, ac yn teimlo braidd yn hunangyfiawn am y peth! Ha! Na, rili nes i fwynhau gwneud, ac ma'en un ffordd o wybod y polisïau tu fewn tu fas!!

Wy hefyd wedi bod yn edrych ar ôl fy Amish Cinamon Bread, neu Friendship Bread. Ma fe'n gwitho fel hyn. Ti'n cal bag ziplock wrth ffrind gyda'r starter ynddo fe. Dros gyfnod o ddeg diwrnod ti'n neud yn siwr bod ti'n gadael yr aer allan o'r bag os os peth yn mynd mewn, ychwanegu fflwr, siwgr a llath iddo fe unwaith ac ar y degfed dwrnod ti'n coginio fe. Nithwr odd y degfed diwrnod. Beth ti'n neud yw ychwanegu mwy o lath, fflwr a siwgr a wedyn rhoi un cwpan mewn pedwar bag a'u labeli nhw i roi i ffrindie. Gyda beth sydd ar ôl ti'n ychwanegu mwy o gynhwysion ac yn i bobi fe am bwyti awr. Na beth nes i, a nawr, yn y rhewgell da fi am dwy dorth fowr o fara sinamon. Nath un dorth adel tamed bach ar ol yn y tin, so odd rhaid i flasu fe, odd e'n hyfryd pyfryd. Sen i'n gallu hala peth o'r starter gytre, bydden i yn!!! Bydden i'n rhoi'r rysait fan hyn, ond sdim pwynt heb y starter, a fel ma'r cyfarwyddiadau'n gweud 'Nobody but the Amish know how to make the starter', so na ni!!

Digon am fwyd a bywyd gwyllt am nawr! Ath y Cino Gŵyl Ddewi dydd Sadwrn dwetha yn iawn. Odd yn band yn wych, ond ethon nhw mlan lot yn rhy hir i'r hen bobl, ond catch 22, on ni'n talu digon iddyn nhw ac on nhw a'u gwragedd yn cal byta am ddim, so odd rhaid iddyn nhw ganu am fwy na 15 munud! Ta beth, fe ath y noson, ac wele ma da fi fideo o'r band (ar y gwaelod). On i'n impressed iawn da nhw rhaid gweud. Band Bluegrass, a wy wed penderfynnu nawr mod i'n lico bluegrass (sy'n beryglus gan mod i'n llu prynu unrhywbeth wy'n moyn oddi ar iTunes, wps!) Sy'n lot mwy na allai weud am y bwyd! Na ddigon. Fe ath e, a dodd e ddim yn RHY boenus!

Wel na ni am nawr, dim mwy i'w ddweud. Ond bod 26 dwrnod nes Eforg Newydd a mond WYTH dwrnod nes mod i'n mynd i sgïo. hiiii!!!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!