trethi, sgïo a rygbi

Wel ma hi'n ddydd Llun unwaith eto, ac unwaith eto wy yn y gwaith heb ddim byd i'w wneud! Diflas. Ma angen i fi wneud Tax Return, ond wy'n hynod o conffiwsd, a wy'n siŵr ych bod chi i gyd yn cytuno mai nid dydd Llun yw'r diwrnod gore i wneud trethi!

So dydd Sadwrn fues i lan yng Ngholumbus yn siopa am ddillad sgï, wel am ffaff. Odd rhestr o bwyti naw mil chwe chant saith deg tri o siope da fi lle falle bydde dillad sgïo. On i wedi ebsotio lot ohonyn nhw dydd Gwener i weld os odd dillad ar ôl da nhw, ac odd lot wedi ateb yn gweud bod braidd dim da nhw rhagor. A na beth odd stori yn y mwyafrif o'r siope es i iddyn nhw. Wel erbyn 5 o'r gloch, on i wedi cal digon ac ishe mynd gytre, rol dreifo rownd Columbus i gyd a wedi bod mewn cannoedd o siope (OK falle on i wedi bod mewn 10), so Aspen Board and Ski odd y siop ola. Odd y siope erill wedi bod yn siope chwaraeon, ac odd hon yn siop sgïo arbennigol (yn amlwg), a lo and behold, odd na bethe na odd yn ffito fi!! So wy wedi cal trowsus sgïo lime green a gan fod sêl yn y siop benderfynnes i gal siaced hefyd, un borffor. Lysh. Ac achos y sêl, mond $200 odd y ddau gyda'i gilydd, sy'n fargen. Ma nhw'n safon uchel fyd, so wy'n hynod hapus!! Byddai bant lan i Columbus nos Iau, hedfan i Boston fore Gwener yn gynnar a chwrdda Mam a Dad fan na, wedyn drefio lan i Stowe, Vermont. Fi ffili aros, fel y'ch ch wedi dyfalu ma'n rhaid!!!

Gan mod i wedi GORFOD mynd i chwilio am ddillad dydd Sadwrn, fe wnes i benderfynnu peidio gwylio'r rygbi nes dydd Sul. A lwyddes i i beidio a gweld y sgôr cyn gwylio'r gêm. Gytid, ma'n rhaid gweud, ond na ni. Ma'n edrych yn gynyddol debygol bod Ffrainc yn mynd i gipio'r gamp lawn, ond os (gwae pawb) wnewn nhw golli, bydd hi'n tie rhyngddyn nhw ac Iwerddon (ow yw Iwerddon yn ennill yn erbyn yr Alban) ac wedyn yn dibynnu ar bwyntie wedi'u sgorio. diolch i dduw, dos dim modd gall Lloegr ennill y bencampwriaeth! whiw. Byddwn ni ar y slopes ddydd Sadwrn, gyda gobeth. Wy'n confinsd bod Cymru wedi bod mor amrywiol leni achos mod i ddim na i weiddi abiws! ond na ni, blwyddyn nesa bois!

Na'i gyd sda fi i weud, ar wahan i - 22 dwrnod nes Efrog Newydd bois!!!

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw